Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Amdanom

LlwybrauMae bywyd yn llawn llwybrau; rhai llythrennol a rhai ffigurol. O’n hanadl cyntaf rydym yn troedio llwybr bywyd, ac ar hyd y daith byddwn yn cyfarfod â phobl wahanol a dod ar draws sefyllfaoedd amrywiol. Wrth fyned ar hyd y daith yn aml iawn bydd rhaid inni wynebu nifer o benderfyniadau am ba lwybrau yr hoffem eu cymryd. Pa bynciau TGAU i gymryd? Pa yrfa i’w ddilyn? Pwy i fynd allan efo? Pa ffasiynau i ddilyn?

Yn fwy creiddiol i fywyd mae cwestiynau fel pwy ydw i? Beth ydw i’n credu? Oes yna bwrpas i fywyd?

Nod Llwybrau

Nod Llwybrau yw rhoi cymorth i chi wrth i chi feddwl am lwybrau gwahanol bywyd. Byddwn yn gwneud hyn drwy ystyried beth sydd gan Iesu, y Beibl a Christnogion i ddweud am faterion gwahanol. Yma fe ddewch o hyd i newyddion o Gymru a thu hwnt, cyfweliadau â phobl wahanol, atebion i rai o gwestiynau anoddach bywyd, tipiau ymarferol ar berthnasau, ysgol, iechyd, esboniadau ar rannau o’r Beibl – a llawer mwy!

Trwy hyn i gyd fe fyddwn yn ceisio cyflwyno’r llwybr sy’n eich arwain at berthynas gyda Duw. Mae’r criw sydd tu ôl i Llwybrau yn credu ein bod wedi ein creu ar gyfer mwy na dim ond cerdded ar lwybr disynnwyr drwy’r bydysawd. Cawsom ein creu gan Dduw sydd yn ein caru ac sydd eisiau cael perthynas â ni. Ar draws y wefan fe fyddwch yn dysgu am Iesu Grist a beth wnaeth e wneud drosom ni, er mwyn adfer y perthynas yna rhyngom ni a Duw. Mae yna bwrpas i fywyd ac mae bywyd i’w fwynhau yng nghwmni Duw.

Cysylltu â ni:

Cwestiynau neu awgrymiadau ar gyfer Llwybrau? Defnyddiwch y ddolen cysylltu ar dop y wefan i anfon neges atom, neu e-bostiwch neges@llwybrau.org. Cofiwch dilyn ni ar cyfryngau cymdeithasol hefyd: Facebook, Twitter ac Instagram.