Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 13 – Cyfrifoldebau’r Ffydd

16 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

13 – Cyfrifoldebau’r Ffydd

Marc 4:21-25

Dywedodd wrthynt, “A fydd rhywun yn dod â channwyll i’w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i’w dodi ar ganhwyllbren?  Oherwydd nid oes dim yn guddiedig ond i gael ei amlygu, ac ni bu dim dan gêl ond i ddod i’r amlwg.  Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed.” Dywedodd wrthynt hefyd, “Ystyriwch yr hyn a glywch. Â’r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi.  Oherwydd i’r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.”

Geiriau Anodd

Dan gêl: Wedi’i guddio.

Cwestiwn 1

Pa fath o bethau ydych chi’n eu cysylltu â goleuni?

Cwestiwn 2

Petai gan berson newyddion da i’w rhannu, ac yn penderfynu eu cadw’n gyfrinach, beth fyddech chi’n meddwl o’r person hwnnw?

  Wrth i ni edrych ar ddameg yr heuwr, fe orffenon ni drwy feddwl am y ffrwyth oedd yn dod ym mywyd y person sy’n credu yn Iesu Grist. Mae Iesu yn mynd ymlaen yn y fan hon i ddweud beth yw rhai o gyfrifoldebau’r Cristion. I wneud hynny mae’n newid y darlun o hadau a chnydau i ganhwyllau a goleuni.

  Mae Iesu’n gofyn cwestiwn er mwyn gwneud i’r disgyblion ddychmygu sefyllfa dwp. Y cwestiwn yw, ‘Ydych chi’n goleuo cannwyll, ac yna’n ei rhoi rywle lle nad ydych yn gallu ei gweld?’ Neu i roi esiampl fwy modern, pwy fyddai’n troi lamp ymlaen ac yna yn ei guddio yn y cwpwrdd? Mae’r syniad yn wirion! Holl bwynt cannwyll neu lamp yw ei bod i roi golau i’r bobl o’i chwmpas er mwyn iddyn nhw allu gweld. Yn yr un ffordd nid yw’r ffrwyth sy’n dod ym mywyd y Cristion i fod i gael ei guddio, ond i fod yn amlwg. Fel goleuni yng nghanol tywyllwch mae’n dangos i bobl eraill sut i fyw ac yn eu harwain at Dduw.

  Mae Iesu’n mynd ymlaen i ddweud, “Â’r mesur y rhowch y rhoir i chwithau.” Mae’r bywyd Cristnogol yn un o haelioni. Unwaith rydym ni’n sylweddoli ein bod ni’n derbyn popeth gan Dduw, yna fe fyddwn ni’n awyddus i rannu â phobl eraill. Yn wir, mae Iesu’n dweud y mwyaf rydym ni’n rhannu goleuni’r efengyl ag eraill, y mwyaf o fendith Duw byddwn ni’n ei phrofi yn ein bywyd ein hunain. Dydy hyn ddim fel fformiwla fathemategol, a dydyn ni ddim yn gwneud y pethau hyn dim ond er mwyn cael ein gwobrwyo. Ond os ydym wedi derbyn gras a chariad Duw yn ein bywydau, yn rhoi clod iddo ef, ac yn dangos yr un cariad tuag at eraill, yna mae Duw yn addo bendithion pellach i ni.

Cwestiwn 3

Ym mha ffyrdd ydyn ni’n gallu cuddio goleuni Duw?

Cwestiwn 4

Pam y mae Iesu mor awyddus i ni fod yn hael i eraill?

Gweddïwch

y bydd Duw yn goleuo eich bywyd fel bod pawb o’ch cwmpas yn gallu gweld hynny a sylweddoli eu bod nhw angen dod ato ef drostyn nhw eu hunain.