Beth yw’r Nadolig?
20 Rhagfyr 2019 | Gan Andrew Settatree

Rhannu
Anrhegion, bwyd, Siôn Corn (wrth gwrs), gwyliau ysgol, canu carolau, panto, CYNLLUN ACHUB… Wel, efallai nad yw ‘cynllun achub’ yn amlwg ar eich rhestr chi wrth i chi feddwl am y Nadolig a’r holl ddathliadau sydd ynghlwm â’r ŵyl.
Rydym ni fel Cristnogion yn credu mai pwrpas y Nadolig yw cofio am y cynllun achub a drefnodd Duw i ni sy’n byw yn y byd anniben hwn. Dyma beth rydym ni’n ei ddathlu wrth ganu carolau, wrth agor anrhegion ac wrth dreulio amser gyda’r teulu.
Pam bod angen i ni gael ein hachub?
Does dim pwynt siarad am gynllun achub Duw heb ddeall oddi wrth beth y mae angen cael ein hachub. Darllenwch ddisgrifiad clir Yr Apostol Paul yn Effesiaid 2:1-3:
Ar un adeg roeddech chi’n farw’n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Roeddech chi’n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi’n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw. Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni’n byw i blesio’r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw.
Mae Paul yn dweud fod pawb naill ai wedi bod neu yn farw yn eu pechod â’u gwrthryfel. Ystyr pechod yw dweud “get lost” wrth Dduw a gwneud yr hyn rydym ni eisiau ei wneud heb boeni am ddymuniadau a disgwyliadau Duw. Mae hyn yn gwneud Duw yn ddig ac mae pob un ohonom ni’n haeddu cael ein cosbi am hynny. Y gosb hynny yw Uffern – sef cael ein gwahanu oddi wrth Dduw am byth a does dim byd y gallwn ni ei wneud i osgoi hynny. Rydym ni mewn sefyllfa ddifrifol, ac mae pob un ohonom ni’n hollol ddiymadferth. Dim ond gwyrth all ein hachub.
Beth yw’r cynllun achub?
Mae cynllun achub Duw wedi’i baratoi ers y dechrau – ers cyn creu’r byd – a’r uchafbwynt anhygoel oedd Iesu Grist yn dod i’r byd. Gallwn ni weld fod Paul wedi deall hynny yn y frawddeg nesaf yn Effesiaid:
Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dyn ni wedi’n hachub!
Mae’r ‘Ond’ hwnnw ar ddechrau’r frawddeg yn dangos y gwahaniaeth enfawr rhwng ein stad ddiobaith ni a dyhead Duw i’n hachub ni sydd yn dod o’i gariad anhygoel tuag atom. Dyna wrthgyferbyniad! Ein gwendid ni a chryfder Duw. Ein pechod ni a chariad Duw. Rydym ni angen i rywun ddod lawr i’n hachub ni – gallwn ni ddim gwneud unrhywbeth i helpu ein hunain. Diolch byth, dyna’n union a wnaeth Duw wrth anfon Iesu i’r byd fel baban. Ond pwy yw Iesu? Yn Ioan 1:1-2 gwelwn fod Iesu yn Dduw, a’i fod wedi bodoli erioed. Mae’n dweud hyn yn Ioan 1:14: ‘Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith ni.’ Hynny yw, daeth Duw yn berson a daeth e lawr i’r ddaear ’ma i fyw.
Yn Iesu, daeth Duw yn ddyn (ond parhaodd i fod yn Dduw hefyd) a phrofodd yn union sut roedd bod yn ddyn yn teimlo – heb wneud unrhywbeth yn anghywir. Am ei fod e wedi dod lawr a byw fel dyn, mae e’n deall pob brwydr ac anhawster rydym ni’n gorfod eu profi. Dioddefodd boen anhygoel yn marw ar y groes er mwyn cymryd ein cosb ni am droi oddi wrth Dduw.
Ond ni ddaeth yr hanes i ben ar y groes. Atgyfododd Iesu er mwyn i ni allu cael ein codi o’n sefyllfa anobeithiol ni. Os ydyn ni’n cyfaddef ein bod ni wedi pechu yn erbyn Duw a gosod ein gobaith a’n bywydau yn ei ddwylo ef rydym ni’n pasio o fod yn farw ac yn anobeithiol i gael bywyd newydd!
Ni allwn gael ein hachub wrth greu argraff dda ar Dduw drwy wneud lot o bethau da a helpu pobl, yn syml rhaid i ni ddweud sori wrth Dduw. Mae Duw yn arllwys gras arnom ni – mae gras yn golygu peidio cael beth rydym ni’n ei haeddu (marwolaeth) a chael rhywbeth nad ydym ni’n ei haeddu (bywyd newydd).
Yr unig beth sy’n rhaid i ni ei wneud i gael ein hachub yw ymddiried yn Iesu a throi tuag ato.
Mae gymaint o bethau yn ein byd ni yn medru gwneud i ni deimlo’n llawen. Ond, dwi yn gwybod fod dim byd i gymharu â’r llawenydd sy’n dod o wybod fy mod i mewn perthynas real â Duw sy’n mynd i bara am byth oherwydd yr hyn a wnaeth Iesu ar y groes. Mae gwybod bod Duw wedi maddau fy mhechodau i yn llawenydd sydd yn amhosibl ei ddisgrifio ac yn llawenydd sydd yn parhau bob dydd. Mae cynllun achub Duw yn gynllun sydd werth ei ddathlu!
Pam bod ots?
Os wyt ti’n Gristion, mae’n bwysig i ti atgoffa dy hun pa mor anhygoel yw cynllun Duw, a’r gwahaniaeth mae wedi ei wneud i dy fywyd. Achos bod Duw wedi anfon Iesu i’r byd fel baban, rwyt ti’n cael bod yn fyw, mewn perthynas â Duw! Os nad wyt ti’n Gristion mae angen i ti gyfaddef y Nadolig hwn pa mor anobeithiol wyt ti, a pha mor beryglus yw dy sefyllfa di. Mae angen i ti dderbyn cynllun achub Duw a chyffesu’r holl bethau rwyt ti wedi’u gwneud yn erbyn Duw. Yna, mae’n rhaid i ti gredu ac ymddiried fod Iesu am faddau i ti a bod yn barod i fyw bywyd sy’n ei blesio ef. Dim ond gyda’i gymorth ef y gelli di wneud hyn. Dyna’r ffordd y byddi di’n gwybod dy fod di’n barod pan fydd Iesu’n dod yn ôl y tro nesaf fel Brenin a Barnwr.