Gwneud Marc 3 – Awdurdod Crist
6 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
3 – Awdurdod Crist
Marc 1:16-28
Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd lesu Simon a’i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i’r môr; pysgotwyr oeddent. Dywedodd lesu wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe’ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” A gadawsant eu rhwydau ar unwaith a’i ganlyn ef. Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac loan ei frawd; yr oeddent wrthi’n cyweirio’r rhwydau yn y cwch. Galwodd hwythau ar unwaith, a chan adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda’r gweision, aethant ymaith ar ei ôl ef.
Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i’r synagog a dechrau dysgu. Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. Yn eu synagog yr oedd dyn ag ysbryd aflan ynddo. Gwaeddodd hwnnw, gan ddweud, “Beth sydd a fynni di â ni, lesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti – Sanct Duw.” Ceryddodd lesu ef a’r geiriau: “Taw, a dos allan ohono.” A chan ei ysgytian a rhoi bloedd uchel, aeth yr ysbryd aflan allan ohono. Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, “Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau’n ufuddhau iddo.” Ac aeth y sôn amdano ar led ar unwaith trwy holl gymdogaeth Galilea.
Geiriau Anodd
- Cyweirio: Trwsio.
- Saboth: Seithfed diwrnod yr wythnos, pan fyddai’r lddewon yn gorffwys o’u gwaith ac yn mynd i’r synagog lleol i addoli Duw. Dydd Sadwrn i ni.
- Synagog: Adeilad lle roedd yr lddewon yn cwrdd i addoli.
- Ysgrifenyddion: Arweinwyr crefyddol lddewig.
- Ysbryd aflan: Un o’r angylion drwg a ddilynodd Satan a throi yn erbyn Duw.
- Sanct: Person neu beth sydd wedi ei neilltuo yn arbennig i wasanaethu Duw.
Cwestiwn 1
Beth ydych chi’n meddwl a gostiodd i’r disgyblion hyn ddilyn lesu Grist?
Cwestiwn 2
Os oes rhywun yn dweud wrthoch chi i wneud rhywbeth, beth sydd yn gwneud i chi wrando ac ufuddhau iddyn nhw?
Mae un gair yn ein helpu i ddeall beth sydd yn digwydd yn yr adnodau hyn – awdurdod. Rydym yn fwy tebygol o wrando ar rywun os oes ganddyn nhw awdurdod. Er enghraifft, mae’n siŵr y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn gwrando ar yr hyn mae plismon yn ei ddweud. Pan mae’r Brenin lesu yn siarad, nid dod â neges Duw yn unig mae e, ond mae ganddo hefyd awdurdod Duw ei hun. Rydym yn gweld hyn yn gyntaf yn y ffordd mae’n galw Simon, Andreas, Iago ac loan i fod yn ddisgyblion iddo. Heb gwestiynu, maen nhw’n ymateb yn syth ac yn ufuddhau. Er nad ydyn nhw’n gwybod beth i’w ddisgwyl, ac er bod dilyn lesu yn golygu gadael eu gwaith a hyd yn oed eu teuluoedd, roedden nhw’n gweld fod yn rhaid iddyn nhw wrando ar lesu Grist.
Yna, wrth iddo ddysgu’r bobl yn y synagog, roedden nhw’n gallu gweld fod rhywbeth yn wahanol amdano fe a’r ffordd roedd e’n egluro gair Duw iddyn nhw. Yr un awdurdod sydd ar waith eto wrth i lesu ddelio â’r ysbryd aflan. Roedd yr ysbryd yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu Grist, a doedd dim dewis ganddo chwaith ond ufuddhau i’r hyn roedd lesu yn ei orchymyn.
Mae hyn yn ein hatgoffa ni, y bydd pawb un dydd yn gweld ac yn cydnabod awdurdod lesu Grist. Ond fel rydym ni wedi gweld gyda’r ysbryd aflan, dydy deall pwy yw lesu ddim yn golygu ein bod ni wedi edifarhau ac wedi credu’r newyddion da.
Cwestiwn 3
Oes pethau yn ein bywyd ni y mae’n rhaid i ni droi cefn arnyn nhw er mwyn lesu Grist?
Cwestiwn 4
Wrth glywed am y pethau anhygoel roedd lesu’n eu gwneud, roedd y bobl i gyd yn siarad amdano. Ydyn ni yr un mor awyddus i rannu â phobl eraill beth mae lesu wedi’i wneud yn ein bywydau ni?
Gweddïwch
y bydd Duw yn rhoi gostyngeiddrwydd i chi dderbyn fod awdurdod ganddo dros yr holl fyd a thros eich bywyd chi. Gofynnwch iddo eich helpu i beidio a bod yn falch, ond i ufuddhau iddo ym mhob peth mae’n ei ofyn, dim ots beth yw’r gost.