Arfogaeth Duw: Iachawdwriaeth
9 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard

Rhannu
Pwrpas helm
- Yn amlwg, pwrpas helm fyddai amddiffyn y pen ac felly’r ymennydd.
Iachawdwriaeth
- Iachawdwriaeth yw cael eich achub rhag rhywbeth.
- Felly beth mae’r Cristion wedi ei achub rhagddo? Yr ateb yw pechod.
- Pechod yw problem fwyaf pob person yn y byd. Mae’n golygu ein bod yn elynion i Dduw ac yn ein gwahanu ni oddi wrtho. Mae’r Cristion wedi ymddiried yn Iesu i ddelio â’i bechod pan gymerodd gosb Duw am ei bechod ar y groes. Er hyn rydym yn dal i fyw mewn byd o bechod ac rydym yn dal i bechu. Ond rydym yn gwybod yn y pen draw fod y nefoedd yn ein haros a bod Iesu wedi paratoi lle ar ein cyfer i fod gydag ef i dragwyddoldeb.
Beth mae’n ei olygu i wisgo helm iachawdwriaeth?
- Mae’r helm yn amddiffyn yr ymennydd, a chyda’r ymennydd rydym yn meddwl. Mae ein hiachawdwriaeth yn effeithio ar y ffordd rydym yn meddwl.
- Mae gwisgo helm iachawdwriaeth yn golygu ein bod yn cofio ein bod yn ddieuog yng ngolwg Duw a gyda’r nefoedd o’n blaen, dim ots beth sy’n digwydd yn y byd yma.
Sut mae’n help i ni yn y frwydr?
- Mae Satan yn ceisio dylanwadu ar y ffordd mae’r Cristion yn meddwl. Gall e wneud i’r Cristion gwestiynu pwynt ufuddhau i Dduw pan fydd bywyd yn anodd. Gall e wneud i ti edrych o gwmpas ar bobl eraill sydd ddim yn Gristnogion ac sydd i weld yn llwyddo. Mae’r helm yn cadw dy lygaid ar y nefoedd, yn dy atgoffa bod dy etifeddiaeth yn y nefoedd yn dragwyddol. Mae’n dy atgoffa dy fod di’n blentyn i Dduw, dim ots beth yw dy amgylchiadau, ac na all dim byd dy wahanu oddi wrth gariad Duw.
Sut ydym yn ei wisgo?
- Gweddïo am help Duw i gofio bod dy etifeddiaeth yn y nefoedd yn dragwyddol ac nad oes dim byd yn gallu dy wahanu oddi wrth dy etifeddiaeth nac oddi wrth gariad Duw.
Rhan 4 – Arfogaeth Duw: Ffydd
Rhan 6 – Arfogaeth Duw: Gair Duw