Arfogaeth Duw: Gair Duw
9 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard

Rhannu
Pwrpas cleddyf
- Mae’r rhan yma o’r arfwisg yn gallu cael ei defnyddio i amddiffyn ac ymosod, ond roedd yn rhaid i’r milwr ymarfer a hyfforddi gyda’r cleddyf er mwyn gallu ei ddefnyddio’n effeithiol.
Gair Duw
- Y Beibl yw Gair Duw. Rydym wedi gweld wrth edrych ar wregys gwirionedd, fod geiriau Duw yn wir, ac felly bod y Beibl yn wir a gallwn ddibynnu arno.
- Mae angen cofio bod angen help yr Ysbryd Glân i ddeall y Beibl, ac mae’n syniad da gweddïo ar i Dduw agor dy lygaid i ddeall ei Air bob tro byddi di’n dod i ddarllen y Beibl.
Beth mae’n ei olygu i ddefnyddio cleddyf yr Ysbryd?
- Roedd milwyr Rhufeinig yn treulio amser hir yn ymarfer â’u cleddyfau. Byddai’r ymarfer yma yn digwydd bob dydd er mwyn gwella eu sgiliau yn trin eu cleddyfau.
- Mae Cristion sy’n gallu defnyddio cleddyf yr Ysbryd yn effeithiol yn gallu defnyddio rhan addas o’r Beibl ar yr amser cywir i amddiffyn ei hun rhag y diafol a hefyd i ymosod ar y diafol.
- Ond mae’r gallu i wneud hyn yn golygu amser ac ymdrech yn darllen, astudio a cheisio dod i ddeall mwy o’r Beibl drwy gymorth yr Ysbryd Glân. Fel y milwr, dylem ni fod yn trin cleddyf yr Ysbryd, gan ddarllen y Beibl yn ddyddiol.
Sut mae’n help i ni yn y frwydr?
- Un enghraifft o sut i ddefnyddio cleddyf yr Ysbryd yn y frwydr i amddiffyn dy hun yw pan gafodd Iesu ei demtio gan y diafol yn yr anialwch. Gallwch ddarllen yr hanes yn efengyl Mathew 4:1-11. Mae Satan yn ceisio temtio Iesu mewn sawl ffordd wahanol, yn cynnwys drwy ddyfynnu Gair Duw yn anghywir. Ond ymateb Iesu i bob temtiad oedd defnyddio cleddyf yr Ysbryd, sef Gair Duw, drwy ddefnyddio y rhan gywir ar yr amser cywir. Mae Iesu yn dyfynnu Deuteronomium 8:3 fel ymateb i’r demtasiwn i droi cerrig yn fara, mae’n dyfynnu Deuteronomium 6:16 fel ymateb i’r demtasiwn i daflu ei hun oddi ar dŵr uchaf y deml, ac mae’n dyfynnu Deuteronomium 6:13 fel ymateb i’r demtasiwn i addoli’r diafol.
- Mae amddiffyn ein hun rhag y diafol fel hyn yn fodd o ymosod arno hefyd. Mae Iago 4:7 yn dweud ‘Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych’. Yn hanes temtiad Iesu, fe adawodd y diafol ef ar ôl methu llwyddo ei gael i bechu. Mae Iago 4:7 yn dweud bydd yr un peth yn digwydd yn ein hanes ni.
Sut ydym yn ei wisgo?
- Gweddïo am help Duw i ddarllen ac astudio ei Air er mwyn dod i’w ddeall yn well ac i ddod i’w adnabod Ef yn well. A hefyd gweddïo am ei help i ddwyn y rhan gywir o’i Air i gof ar yr adeg gywir er mwyn gallu gwrthsefyll temtasiynau’r diafol.
Dyna ni wedi dod i ddiwedd yr arfogaeth. Cofia ei fod yn hanfodol gwisgo HOLL arfogaeth Duw. Dyw gwisgo’r esgidiau a’r helm yn unig ddim yn mynd i dy amddiffyn os yw’r diafol yn ymosod ar dy galon, er enghraifft. Dy waith di yw ei wisgo, ond mae’n rhaid cofio dy fod yn wan a bod angen help a nerth Duw arnat ti i’w wisgo.
Dyma rhai awgrymiadau i dy helpu:
- Gweddia yn aml, gan gynnwys “arrow prayers” (gweddiau byr yn y fan a’r lle)
- Ceisia ddarllen rhan o’r Beibl bob dydd
- Os wyt yn gweld darllen y Beibl yn anodd, mae apiau, nodiadau darlleniadau dyddiol (e.e. Llwybrau) ac esboniadau syml (e.e. Gwneud Marc) ar gael i helpu
- Anelu i ddysgu adnod newydd ar gof bob wythnos/fis a fydd yn help i ti yn dy fywyd o ddydd i ddydd
Rhan 5 – Arfogaeth Duw: Iachawdwriaeth