Gwneud Marc 16 – Nerth Crist
21 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
16 – Nerth Crist
Marc 5:1-20
Daethant i’r ochr draw i’r môr i wlad y Geraseniaid. A phan ddaeth allan o’r cwch, ar unwaith daeth i’w gyfarfod o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ynddo. Yr oedd hwn yn cartrefu ymhlith y beddau, ac ni allai neb mwyach ei rwymo hyd yn oed â chadwyn, oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo’n fynych â llyffetheiriau ac â chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a’r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai’n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig. A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o’i flaen, a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â’m poenydio.” Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o’r dyn.” A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.” Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â’u gyrru allan o’r wlad. Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori. Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, “Anfon ni i’r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy.” Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o’r dyn ac i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y môr.
Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd â’i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn. Adroddwyd wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd i’r dyn ym meddiant cythreuliaid, a’r hanes am y moch hefyd. A dechreusant erfyn arno fynd ymaith o’u gororau. Ac wrth iddo fynd i mewn i’r cwch, yr oedd y dyn a oedd wedi bod ym meddiant y cythreuliaid yn erfyn arno am gael bod gydag ef. Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, “Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae’r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a’r modd y tosturiodd wrthyt.” Aeth yntau ymaith a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto; ac yr oedd pawb yn rhyfeddu.
Geiriau Anodd
- Mynych: Yn aml.
- Llyffetheiriau: Rhywbeth oedd yn cael ei ddefnyddio i glymu traed.
- Dryllio: Torri.
- Lleng: Term am grŵp mawr.
- Cenfaint: Haid.
- Gororau: Ardal.
Cwestiwn 1
Ydych chi’n meddwl fod rhai pobl na all Duw eu hachub?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n credu fod y bobl am i Iesu fynd i ffwrdd ar ddiwedd y stori?
Ceisiwch ddychmygu am funud eich bod yn byw yn ystod y ganrif gyntaf mewn pentref bach yn y Dwyrain Canol. Un dydd rydych chi’n codi eich llygaid i’r pellter ac yn gweld dyn yn cerdded tuag atoch. Mae’ch calon yn dechrau curo yn gyflymach ac rydych chi’n dechrau poeni oherwydd rydych chi’n adnabod y person yma – mae e’n enwog, and nid am resymau da. Dyma’r dyn gwyllt sy’n ei alw ei hunan yn ‘Lleng’ oherwydd ei fod dan reolaeth cymaint o ysbrydion aflan. Mae’n gwbl afreolus, mae’n byw mewn mynwent, mae mor gryf nes ei fod yn gallu rhwygo cadwynau, mae’n rhedeg o gwmpas heb wisgo unrhyw ddillad ac mae’n aml yn ei frifo ei hunan. Ond, wrth iddo ddod yn nes, rydych chi’n sylweddoli fod rhywbeth yn wahanol amdano. Dydy e ddim yn ymddwyn fel roedd e. Dydy e ddim yn rhedeg o amgylch yn gweiddi. Mae e hyd yn oed yn gwisgo dillad! Mae e’n edrych yn, wel, yn normal!
Wrth iddo eich cyrraedd chi mae’r dyn yn eich cyfarch yn gwrtais, ac yn dechrau esbonio gyda gwên enfawr fod rhywbeth anhygoel wedi digwydd iddo. Y diwrnod o’r blaen fe gwrddodd â dyn o’r enw Iesu o Nasareth. Er bod neb o’r blaen wedi llwyddo i’w reoli na’i helpu, roedd gair gan Iesu yn ddigon i wneud i’r holl ysbrydion aflan oedd wedi ei boeni mor hir ei adael.
Nawr dychmygwch sut y byddech chi’n ymateb i hanes y dyn hwnnw. Wrth ystyried y newid rhyfeddol a ddigwyddodd yn ei fywyd, a fyddech chi’n hapus neu’n drist drosto fe?
Cwestiwn 3
Wrth feddwl am awdurdod Iesu Grist, a chymaint a wnaeth dros y dyn yma, ydych chi’n meddwl y gall eich helpu chi?
Cwestiwn 4
Roedd Iesu eisiau i’r dyn adrodd yr hanes wrth ei bobl ei hun. Beth mae hyn yn ei feddwl i ni?
Gweddïwch
y bydd gwaith Duw yn eich bywyd chi yr un mor drawiadol ag oedd e ym mywyd Lleng.