Cynllun Darllen Pobl Annisgwyl yn y Beibl
1 Tachwedd 2017

Rhannu
Wyt ti’n meddwl y gall Duw dy ddefnyddio di? Yn aml, mae’n hawdd meddwl na all Duw ein defnyddio o gwbl pan fyddwn yn edrych ar ein bywyd ni. Rydym yn edrych ar gamgymeriadau a phechodau’r gorffennol, neu’n edrych ar bobl eraill (sy’n llawer mwy talentog na ni), ac yn meddwl ‘pa obaith sydd yna i Dduw fy nefnyddio i mewn unrhyw ffordd?’
Ond mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn llawn gras, ac wrth ddarllen y Beibl gwelwn Dduw yn defnyddio pobl sydd yn union fel ni. Mae Duw’n aml yn defnyddio’r bobl fwyaf annisgwyl i wneud ei waith. Yn narlleniadau’r mis yma byddwn yn edrych ar rai pobl y mae Duw wedi eu defnyddio mewn ffyrdd arbennig. Bydd hanes a chefndir y bobl yma yn dy synnu!
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.