Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 29 – Gostyngeiddrwydd a Balchder (1)

6 Mai 2020 | Gan Emyr James

29 – Gostyngeiddrwydd a Balchder (1)

Marc 9:30-37

Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny, oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe’i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda.” Ond nid oeddent hwy’n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi. Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tŷ gofynnodd iddynt, “Beth oeddech chwi’n ei drafod ar y ffordd?” Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau â’i gilydd pwy oedd y mwyaf. Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, “Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.” A chymerodd blentyn, a’i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i’w freichiau, a dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag sy’n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy’n fy nerbyn i, nid myfi y mae’n ei dderbyn, ond yr hwn a’m hanfonodd i.”

Geiriau Anodd

  • Traddodi: Ei roi.
  • Tewi: Mynd yn dawel.
  • Blaenaf: Mwyaf pwysig.

Cwestiwn 1

Ym mha ffordd mae agwedd Iesu yn wahanol i’w ddisgyblion?

Cwestiwn 2

Sut mae’r hyn mae Iesu’n ei ddweud yn wahanol i’r hyn mae ein cymdeithas yn ei ddysgu?

  Rydym wedi sylwi sawl gwaith ar y ffaith fod yr hyn oedd gan Iesu i’w ddweud amdano’i hun a’r gwaith roedd e’n mynd i’w gyflawni yn wahanol iawn i ddisgwyliadau’r bobl oedd o’i amgylch. Roedd ei syniadau mor wahanol nes bod y disgyblion yn methu deall am beth oedd e’n siarad pan oedd e’n sôn am gael ei ladd ac atgyfodi. Mae’n dod yn amlwg nad ydyn nhw chwaith wedi deall sut mae dilynwyr Iesu Grist i fod i drin ei gilydd.

  Yn y byd, mae pawb eisiau bod yn bwysig. Mae pobl yn gweithio’n galed dros ben er mwyn gwneud llawer o arian a chael swydd dda lle bydd pobl yn edrych lan atynt. Roedd y disgyblion yn meddwl yn yr un ffordd. Wrth iddyn nhw gerdded gyda’i gilydd roedden nhw yn dadlau pa un ohonynt oedd fwyaf pwysig, pwy oedd y disgybl gorau, pwy ohonyn nhw oedd wedi cyrraedd y lefel uchaf. A’r gwir yw, yn aml rydyn ni hefyd yn gallu meddwl yn yr un ffordd.

  Ond ers dechrau llyfr Marc rydym wedi gweld nad Brenin arferol yw Iesu, a bod ei deyrnas yn anarferol hefyd. Daeth yr Arglwydd Iesu Grist i’r byd fel dyn er mwyn gwasanaethu pobl eraill, dioddef, a rhoi ei fywyd dros fyd oedd wedi ei wrthod. Os dyma sut mae’r Brenin yn ymddwyn, yna pa fath o agwedd a ddylai fod gan ei ddilynwyr? Yn gwbl wahanol i beth mae’r byd yn ei ddweud, dyma’r ffordd mae arweinwyr teyrnas Dduw i fod i ymddwyn: os ydych chi am fod yn agos iawn at Dduw, ac yn debyg i’r hyn mae’n ei ddymuno, yna mae angen i chi beidio â meddwl amdanoch eich hunan, a gwneud popeth a allwch chi i wasanaethu eraill.

Wrth gwrs roedd perygl y byddai’r disgyblion yn clywed yr hyn roedd Iesu’n ei ddweud a dim ond gwasanaethu oedolion eraill oedd yn haeddu eu parch ac a fyddai’n sylwi ar yr hyn roedden nhw yn ei wneud. Felly mae Iesu yn gosod plentyn o’u blaen ac yn dweud fod hyd yn oed y ffordd roedden nhw’n trin plant i fod i adlewyrchu eu cariad at Dduw. Yr unig ffordd y gallwn ni wasanaethu eraill fel hyn yw os ydym wedi gweld cymaint y mae Duw wedi ein caru ni, drwy anfon ei Fab i farw yn ein lle.

Cwestiwn 3

Sut dylai meddwl am y ffordd y gadawodd Iesu y nefoedd a dioddef drosom, newid ein hagwedd tuag at eraill?

Cwestiwn 4

Pam yr oedd Iesu’n tynnu sylw at y ffordd ma ei ddilynwyr i drin plant?

Gweddïwch

ar i Dduw eich gwneud chi yn debyg i Iesu, gan roi i fyny eich hawliau eich hun a gwasanaethu pobl eraill.