Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 24 – Rhyfedd Ffyrdd

26 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

24 – Rhyfedd Ffyrdd

Marc 7:31-37

Dychwelodd drachefn o gyffiniau Tyrus, a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea trwy ganol bro’r Decapolis. Dygasant ato ddyn byddar oedd prin yn gallu siarad, a cheisio ganddo roi ei law arno. Cymerodd yntau ef o’r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd â’i dafod; a chan edrych i fyny i’r nef ochneidiodd a dweud wrtho, “Ephphatha”, hynny yw, “Agorer di”. Agorwyd ei glustiau ar unwaith, a datodwyd rhwym ei dafod a dechreuodd lefaru’n eglur. A gorchmynnodd iddynt beidio â dweud wrth neb; ond po fwyaf yr oedd ef yn gorchymyn iddynt, mwyaf yn y byd yr oeddent hwy’n cyhoeddi’r peth. Yr oeddent yn synnu’n fawr dros ben, gan ddweud, “Da y gwnaeth ef bob peth; y mae’n gwneud hyd yn oed i fyddariaid glywed ac i fudion lefaru.”

Geiriau Anodd

  • Byddar: Methu clywed.
  • Datod rhwym: Agor rhywbeth sydd wedi’i rwymo.

Cwestiwn 1

Ydych chi erioed wedi clywed rhywun yn dweud sut y daeth yn Gristion?

Cwestiwn 2

Pam ydych chi’n meddwl fod hanes pawb yn wahanol?

 Mae bob amser yn hyfryd clywed rhywun yn esbonio sut y daeth i gredu yn Iesu Grist. Mae’n rhyfedd meddwl fod pob hanes yr un peth oherwydd mai gwaith Duw ydyw yng nghalon y person, ac eto mae’r union brofiadau a digwyddiadau ym mywyd y person hwnnw yn golygu fod pob stori yn wahanol.

  Allwch chi ddim cael esiampl fwy gwahanol a rhyfedd na’r un rydym yn mynd i edrych arni heddiw. Roedd y dyn mewn sefyllfa hynod o drist. Doedd e ddim yn gallu clywed pobl eraill yn siarad, a doedd e braidd yn gallu dweud dim wrthyn nhw. Yng nghanol y sefyllfa anobeithiol honno mae ffrindiau’r dyn yn ei arwain at yr unig un a allai ei helpu, Iesu o Nasareth. Roedd rhai pobl wedi cael eu gwella trwy ddim ond cyffwrdd yn ei wisg. Ond nid dyna sy’n digwydd y tro hwn. Mae Iesu yn cymryd y dyn i’r naill ochr ac yn gwneud rhywbeth sy’n edrych yn rhyfedd iawn i ni – mae’n rhoi ei fysedd yng nghlustiau’r dyn ac yna’n rhoi ychydig o boer ar ei dafod. Wedyn mae’n dweud wrth glustiau a thafod y dyn i agor, a dyna sy’n digwydd yn syth.

  Doedd dim angen i Iesu wneud y pethau hyn. Ond oherwydd mai dim ond gweld roedd y dyn yn gallu gwneud mewn gwirionedd, dyma fe’n ei wella mewn ffordd hynod o weledol. Wrth edrych i’r nefoedd tra oedd yn gwneud y pethau hyn, roedd Iesu’n dangos yn hollol glir i’r dyn ac i bawb ei fod yn helpu’r dyn yma yn nerth Duw. Mae’n drawiadol nodi’r ffaith fod Iesu’n ochneidio wrth iddo weld y ffordd mae pechod y byd hwn yn golygu fod pobl yn dioddef.

  Does dim byd gwell na chael rhannu eich profiad ysbrydol â phobl eraill. A dyma’n union sy’n digwydd yma. Y peth cyntaf mae’r dyn eisiau ei wneud â’i dafod yw siarad am yr hyn mae Iesu wedi ei wneud. Ac mae ei ffrindiau yr un fath yn mynnu sôn am y pethau da roedd Iesu yn eu cyflawni.

Cwestiwn 3

Beth mae’r ffaith fod Iesu wedi ochneidio wrth wella’r dyn yn ei ddangos i ni?

Cwestiwn 4

Ydych chi’n awyddus i rannu eich tystiolaeth?

Gweddïwch

y bydd Duw yn helpu chi i weld cymaint y mae wedi ei wneud trosoch ac y bydd yn rhoi dyhead ynoch chi i rannu eich profiad a phobl eraill.​