Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 6 – Maddau Pechodau

9 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

6 – Maddau Pechodau

Marc 2:1-12

Pan ddychwelodd i Gapernaum ymhen rhai dyddiau, aeth y newydd ar led ei fod gartref. Daeth cynifer ynghyd fel nad oedd mwyach le i neb hyd yn oed wrth y drws. Ac yr oedd yn llefaru’r gair wrthynt. Daethant â dyn wedi ei barlysu ato, a phedwar yn ei gario. A chan eu bod yn methu dod â’r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do’r tŷ lle’r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy’n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno ac yn meddwl ynddynt eu hunain, “Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Y mae’n cablu. Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?” Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain? Prun sydd hawsaf, ai dweud wrth y claf, ‘Maddeuwyd dy bechodau’, ai ynteu dweud, ‘Cod, a chymer dy fatras a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear” – meddai wrth y claf, “Dyma fi’n dweud wrthyt, cod, a chymer dy fatras a dos adref.” A chododd y dyn, cymryd ei fatras ar ei union a mynd allan yn eu gŵydd hwy oll, nes bod pawb yn synnu ac yn gogoneddu Duw gan ddweud, “Ni welsom erioed y fath beth.”

Geiriau Anodd

  • Parlysu: Ddim yn gallu symud.
  • Maddeuwyd: Wedi maddau.
  • Cablu: Dweud rhywbeth yn erbyn Duw.
  • Mab y Dyn: Teitl o’r Hen Destament mae Iesu’n ei ddefnyddio ar ei gyfer ei hun. Edrychwch ar llyfr Daniel, pennod 7.

Cwestiwn 1

Sut mae ffydd y dynion yn y stori yn ei hamlygu ei hun?

Cwestiwn 2

Sut fyddech chi’n teimlo petai pobl eraill yn gwybod beth oedd yn mynd trwy’ch meddwl?

Dyma’r ail dro rydym ni wedi gweld pobl yn rhyfeddu at Iesu. Hyd yn hyn, er ei fod wedi gwneud sawl peth anhygoel, dydy e ddim wir wedi dangos yn amlwg ei fod yn wahanol i rai o weision Duw yn y gorffennol. Ond yn y stori hon rydym yn ei weld yn gwneud rhywbeth hollol newydd – rhywbeth mai dim and Duw sydd yn gallu ei wneud. Mae’n edrych ar y dyn yma oedd mewn sefyllfa mor drist, yn gobeithio cael ei iacháu, ac mae’n dweud wrtho ei fod wedi cael maddeuant am bob peth mae e erioed wedi ei wneud yn erbyn Duw. Roedd hyn yn beth enfawr i’w ddweud, oherwydd os pechod yw byw mewn ffordd sydd ddim yn plesio Duw, yna dim ond Duw sy’n gallu cynnig maddeuant. Beth mae Iesu yn ei ddweud yma yw fod ganddo’r hawl i faddau ac felly mai ef yw Duw. Am y tro cyntaf rydym yn gweld Iesu’n defnyddio ei hoff deitl amdano’i hun, sef Mab y Dyn. Mae’r teitl hwn o’r Hen Destament yn cyfeirio at y ffordd roedd Duw wedi dangos i’r proffwyd Daniel y byddai’n anfon Brenin i deyrnasu ar ei bobl a choncro pob gelyn.

  Mewn ffordd roedd hyn yn beth rhwydd i’w ddweud achos fyddai neb yn gallu profi’r peth. Ond mae dau beth yn y stori sy’n dangos fod Iesu’n dweud y gwir. Yn gyntaf, trwy wella’r dyn mae’n dangos fod ganddo awdurdod oddi wrth Dduw. Fyddai Duw ddim yn caniatáu iddo wneud gwyrthiau yn ei enw ef os oedd e’n dweud celwydd. Ond mae hefyd yn dangos fod ganddo allu arall sydd gan Dduw, sef gwybod beth roedd yr ysgrifenyddion yn ei feddwl. Mae hyn yn gwneud yr holl beth yn fwy rhyfeddol fyth. Mae’n dangos fod Iesu yn gwybod y cyfan sydd yn ein calonnau ni, yr holl bethau hynny rydym ni’n gallu eu cuddio oddi wrth bawb arall, and er hyn mae’n dal yn fodlon maddau i ni os ydym yn gofyn iddo.

Cwestiwn 3

Pa gysur ydyn ni’n ei gael o wybod fod Iesu yn Frenin ar ei bobl ac yn gallu curo pob gelyn?

Cwestiwn 4

Ydych chi’n meddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth sy’n rhy wael i Iesu ei faddau?

Gweddïwch

y bydd Duw yn rhoi ffydd i chi weld fod gan Iesu awdurdod i faddau pechodau ac mai dyna’r peth rydych chi ei angen yn fwy na dim.