Pasg 2019
1 Ebrill 2019 | Gan Gwilym Tudur

rhannu
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd ein harchfarchnadoedd yn llenwi unwaith eto gydag wyau Pasg o bob lliw a llun wrth i dymor y Pasg agosáu. Bydd Mini Eggs a Creme Eggs yn llenwi silffoedd ein siopau cornel a bydd gwasanaethau ynglŷn â’r Pasg yn cael eu cynnal yn ein hysgolion. Ond, pam dathlu’r Pasg o gwbl? Pam fod y Pasg yn achlysur gwerth i’w ddathlu bob blwyddyn? Pam fod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist mor bwysig? Beth sydd gan groes Iesu Grist i’w wneud hefo fy mywyd i?
Bwriad y cynllun darllen hwn yw edrych ar beth mae Iesu ei hun yn ei ddweud am arwyddocâd ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn y Beibl. Felly, bydd ail hanner y cynllun yn canolbwyntio ar y geiriau mae Iesu yn eu llefaru o’r groes a’i eiriau wedi iddo atgyfodi yn ôl yn fyw. Cyn gwneud hyn, bydd hanner cyntaf y cynllun yn cychwyn trwy edrych ar sut mae’r Hen Destament yn proffwydo ei farwolaeth a’r amgylchiadau sy’n arwain at ei farwolaeth yn yr Efengylau. Byddwn yn sylwi yn yr astudiaethau hyn mai marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yw’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes dynoliaeth. Pam? Am fod ei farwolaeth yn talu’r pris yr ydym yn ei haeddu am ein pechodau a bod ei atgyfodiad yn dangos fod bywyd newydd i’r un sy’n rhoi ei ffydd yn Iesu Grist.
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys darlleniad dyddiol ac ychydig o gwestiynau ynglŷn â’r darlleniad i dy helpu i’w ddeall yn well. Cofia gweddïo cyn cychwyn darllen gan ofyn i Dduw dy helpu i ddeall ei Air. Wedi’r cwestiynau, bydd gweddi fechan yn dy helpu i ddiolch i’r Arglwydd am yr hyn rwyt wedi ei ddysgu yn y darlleniad. Bydd y cynllun hwn yn para am fis os wyt yn darllen un darlleniad y diwrnod.
Mae modd lawrlwytho’r gynllun trwy’r ddolen isod, neu dilynwch ni ar Facebook, Instagram neu Twitter i weld y darlleniadau yn dyddiol!