Gwneud Marc 12 – Dameg yr Heuwr
16 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
12 – Dameg yr Heuwr
Marc 4:1-20
Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y môr. Yr oedd yn dysgu llawer iddynt ar ddamhegion, ac wrth eu dysgu meddai: “Gwrandewch! Aeth heuwr allan i hau. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a’i fwyta. Syrthiodd peth arall ar dir creigiog, lle ni chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear; a phan gododd yr haul fe’i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. Syrthiodd peth arall ymhlith y drain, a thyfodd y drain a’i dagu, ac ni roddodd ffrwyth. A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.” Ac meddai, “Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.” Pan oedd wrtho’i hun, dechreuodd y rhai oedd o’i gwmpas gyda’r Deuddeg ei holi am y damhegion. Ac meddai wrthynt, “I chwi y mae cyfrinach teyrnas Dduw wedi ei rhoi; ond i’r rheini sydd oddi allan y mae popeth ar ddamhegion, fel ‘er edrych ac edrych, na welant, ac er clywed a chlywed, na ddeallant, rhag iddynt droi’n ôl a derbyn maddeuant.'”
Ac meddai wrthynt, “Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion? Y mae’r heuwr yn hau y gair. Dyma’r rhai ar hyd y llwybr lle’r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio’r gair sydd wedi ei hau ynddynt. A dyma’r rhai sy’n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy’r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen; ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith. Ac y mae eraill sy’n derbyn yr had ymhlith y drain: dyma’r rhai sydd wedi clywed y gair, ond y mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o’r fath yn dod i mewn ac yn tagu’r gair, ac y mae’n mynd yn ddiffrwyth. A dyma’r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy’n clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”
Geiriau Anodd
- Heuwr: Rhywun sydd yn taflu hadau.
- Gorthrymder: Amser caled.
- Erlid: Dioddef casineb.
- Hudoliaeth golud: Cael eich swyno gan arian ac eiddo.
Cwestiwn 1
Sawl ffordd wahanol y all pobl ymateb i Iesu?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n meddwl fod Iesu’n siarad mewn damhegion?
Mae’r ddameg gyfarwydd hon yn dangos beth sy’n digwydd yng nghalonnau pobl wrth glywed gair Duw. Mae Iesu’n dweud fod yna bedwar math o berson. Mae’r math cyntaf mor galed fel bod y newyddion da ddim yn cael effaith o gwbl ac maen nhw’n anghofio’r peth yn llwyr. Mae’r ail fath fel tir creigiog sy’n ymddangos fel bod ffrwyth yn dod, ond ymateb emosiynol llwyr ydyw. Gan nad oes dim dyfnder i’w ffydd, pan mae amseroedd anodd yn dod maen nhw’n troi eu cefn yn syth. Mae’r math nesaf yn debyg i dir llawn drain. Eto, mae fel petai y gair yn cael effaith. Ond cyn ei fod yn gallu cyflawni ei waith mae cariad at y byd hwn yn lladd y ffrwyth. Mae’r math olaf yn wahanol – maen nhw fel tir da. Mae’r gair yn dod atynt, maen nhw’n ei dderbyn, ac yn cael eu newid yn llwyr.
Wnaethoch chi sylwi ar wirionedd difrifol y ddameg? Allan o’r pedwar math o berson, dim ond un sydd wir wedi credu. Mae’r gweddill naill ai wedi gwrthod o’r cychwyn neu ddim wedi para hyd y diwedd. Mae’r ddameg hon yn ein rhybuddio i fod yn sicr ein bod wedi croesawu gair Duw i’n calonnau, ein bod ni wedi’n gwreiddio ynddo fe, ac i ofalu nad ydyn ni’n cael ein denu i ffwrdd gan unrhyw beth mae’r byd yn ei gynnig.
Ond mae’r ddameg hefyd yn dweud rhywbeth pwysig wrthym am y gwir Gristion. Yn gyntaf mae pob un sy’n credu yn Iesu Grist yn mynd i ddangos hynny yn y ffordd maen nhw’n byw. Ond hefyd, fel planhigyn, mae faint o ffrwyth sy’n dod, a pha mor gyflym mae’n tyfu, yn mynd i amrywio o berson i berson, ac felly does dim angen digalonni na chenfigennu wrth edrych ar fywyd rhywun arall, os ydym yn tyfu ein hunain.
Cwestiwn 3
Pa fath o dir sy’n eich disgrifio chi orau? Ydych chi’n meddwl fod modd newid?
Cwestiwn 4
Ydych chi’n chwilio am ffrwyth yn eich bywyd? Pa fath?
Gweddïwch
y bydd yr efengyl yn cael ei chyhoeddi yn ffyddlon, y bydd Duw yn paratoi calonnau pobl i’w derbyn, ac y bydd yn dwyn llawer o ffrwyth.