Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cynllun Darllen y Pasg

28 Chwefror 2018
1 Corinithiaid 15:1-5

Rhannu

Pam ydyn ni’n dathlu’r Pasg? Cyfle i fwyta siocled ac efallai cinio Dydd Sul mawr gyda chig oen a mint sauce… ond pam fod yr achlysur hwn yn bodoli? Beth sydd i’w ddathlu go iawn? Pwrpas astudiaethau’r mis yma yw edrych yn ofalus ar hanes y Pasg yn y Beibl, gan obeithio pan ddaw’r ŵyl, byddi di’n gallu ystyried beth yw dy ymateb ti i beth mae Iesu Grist wedi gwneud drosot.

Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.

Mae rhan gyntaf y cynllun darllen ar gael isod ar ffurf PDF i’w lawrlwytho, a chofia bod y darlleniadau i gyd yn cael ei rhoi lan ar draws ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol – @Llwybrau

 

 

Tanysgrifiwch yma i dderbyn y cynllun darllen dros ebost