Y Mab Afradlon
1 Medi 2017 | Gan Steffan Job
Dydw i ddim yn gwybod beth yw eich barn chi am Iesu. Mae yna lot o bobl yn meddwl ei fod yn dipyn o wimp a goody-goody, dim ond yn treulio amser gyda phobl barchus ac yn dweud storïau neis wrth bobl, yn ceisio plesio pawb. Mae’r realiti yn wahanol iawn. Doedd Iesu ddim yn ofni codi gwrychyn pobl (yn enwedig y bobl barchus!), ac roedd yn treulio llawer o’i amser gyda’r down and outs. Does dim un sefyllfa yn dangos hyn yn fwy na’r hanes rydyn ni am edrych arno yn yr erthygl yma. Sylwch fod Iesu yma yn cael amser anodd gan y Phariseaid (pobl grefyddol a pharchus Israel), gan ei fod yn treulio ei amser gyda’r pechaduriaid. Sut mae Iesu’n ymateb? Mae’n dweud stori…
Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo. Dyma’r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o’r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma’r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab. Yn fuan wedyn, dyma’r mab ifancaf yn gwerthu’r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt. Ar ôl iddo golli’r cwbl bu newyn difrifol drwy’r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu.
Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i’r caeau i ofalu am foch. Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o’r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo i’w fwyta.
Calliodd o’r diwedd, ac meddai ‘Beth dw i’n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd.’ Af i adre at dad, a dweud wrtho: ‘Mae’n ddrwg gen i dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab i ti ddim mwy. Gad i mi fod yn un o dy weision di.’ Felly i ffwrdd ag e yn ôl adre.
Gwelodd ei dad e’n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a’i gofleidio a’i gusanu. Dyma’r mab yn dweud wrtho, ‘Mae’n ddrwg gen i dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab i ti ddim mwy…’ Ond chafodd y mab ddweud dim mwy – dyma’i dad yn torri ar ei draws, ‘Brysiwch!’ meddai wrth ei weision, ‘Ewch i nôl mantell iddo ei gwisgo – yr un orau! Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau ar ei draed. Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti! Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dyn ni wedi ei gael yn ôl.’ Felly dyma’r parti’n dechrau.
Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio, a gofynnodd i un o’r gweision beth oedd yn digwydd. ‘Mae dy frawd wedi dod adre!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi i ddathlu ei fod yn ôl yn saff.’ Ond dyma’r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma’i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn. Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau! Ond dyma hwn yn dod adre! – y mab yma sydd gen ti – yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! Mae’n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi ei besgi i hwn!’
‘Machgen i,’ meddai’r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl. Ond roedd rhaid i ni ddathlu – roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dyn ni wedi ei gael yn ôl!’
Luc 15:11-32
Stori i bwy?
Fel gymaint o awduron heddiw, mae Iesu yn aml yn defnyddio storïau i ddysgu a chyfathrebu pethau i bobl – roedd rhai pobl yn deall, ond i nifer roedd ystyr y storïau yn hollol gudd. Wrth gwrs, nid awdur cyffredin oedd Iesu – roedd yn aml yn defnyddio storïau neu ddamhegion i ddysgu pethau i’r bobl oedd yn gwrando arno – y pechaduriaid a’r Phariseaid yn yr achos yma).
Ar y wyneb mae’r stori yn un syml iawn: Mae gan ddyn ddau fab. Mae’r mab ieuengaf yn gofyn i’w dad am ei etifeddiaeth (yr arian yr oedd am dderbyn pan fyddai ei dad wedi marw), ac mae’n mynd i wlad bell a gwario’r arian i gyd drwy fyw yn wirion a gwastraffu’r pres ar bleser. Yn fuan iawn mae’n sylweddoli ei gamgymeriad gan ddod adref yn edifar/sori. Er syndod iddo, mae ei dad yn ei dderbyn yn ôl yn llawen. Mae’r brawd hynaf yn clywed am hyn ac nid yw’n hapus o gwbl. Mae’r ddameg yn gorffen gyda’r tad yn siarad â’r mab hynaf ac yn ceisio ei berswadio i ddod i mewn i’r wledd i ddathlu fod ei frawd iau wedi dod yn ôl.
Beth mae’r stori yn ei ddweud wrthym ni?
Yr allwedd i ddeall y stori yw gweld fod y tad yn cynrychioli Duw, ac mae’r ddau fab yn cynrychioli’r rhai oedd yn gwrando ar Iesu. Nid yw Iesu yn sôn am ddau fab go iawn – ond mae’n eu defnyddio fel darlun i ddangos sut mae pobl yn ymateb i Dduw (y Tad). Trwy gydol y stori rydyn ni’n gweld fod y tad eisiau cael perthynas â’r ddau fab – mae e eisiau i’r mab ieuengaf ddod adref, ac i’r mab hynaf ddod i’r wledd. Dyma ddarlun o agwedd Duw tuag at bob un ohonom ni. Duw sydd y tu ôl i bob dim, fe sydd wedi ein creu, o’i flaen ef y byddwn yn sefyll wedi i ni farw, ac mae am gael perthynas bersonol gyda phob un ohonom. Trwy’r stori yma mae Iesu yn dangos i ni beth yw Cristnogaeth go iawn.
3 pheth i’w dysgu o’r ddameg:
1. Y brawd iau
Gwelwn fod y brawd iau yn ymddwyn yn ofnadwy tuag at y tad. Mae’n mynd at ei dad ac yn gofyn am yr etifeddiaeth a trwy hyn yn dangos agwedd ei galon – beth mae’n ei ddweud go iawn yw ‘Dad, byddai’n well gen i pe byddet ti’n marw, er mwyn i mi gael yr arian a phopeth rwyt ti’n medru ei roi i mi. Dwi ddim eisiau dim cyswllt â thi dim mwy – cer o’ ma!’ Mae’n cael ei ddeisyfiad ac yn mynd i wlad bell ac yn gwastraffu’r cyfan. Mae e wedi ymddwyn yn ofnadwy, ac wrth fwydo’r moch mae’n sylweddoli pa mor wirion mae e wedi bod.
Mae hwn yn ddarlun perffaith ohonom ni. Mae Duw yn dad i bawb, ef yw ein crëwr ac mae yn ein caru. Ond rydym ni wedi troi oddi wrtho, anwybyddu’r ffordd mae am i ni fyw, a mynd ein ffordd ein hunain. Mae hyn yn wirion iawn – yn y diwedd sut mae hi am fod i ni heb Dduw? Dim ond poen ac anhapusrwydd sy’n mynd i ddod i ni os byddwn yn byw heb Dduw. Efallai bod pethau’n edrych yn dda ar hyn o bryd, ond chawn ni byth ein bodloni heb Dduw.
Ond sylwch beth mae’r mab ieuengaf yn ei wneud. Mae’n penderfynu mynd yn ôl at ei dad, ac yn rhyfeddol mae’r tad yn llawen i weld ei fab. Dyma’r mab sydd wedi cymryd ei arian, ei drin mor wael, dwyn anfri ar enw’r teulu – fyddai neb yn gweld unrhyw beth o’i le pe bai’r tad wedi ei yrru i ffwrdd. Ond na, mae’r tad allan yn chwilio am y mab, mae’n rhedeg (rhywbeth nad oedd dynion parchus yn gwneud yn amser Iesu), mae’n ei gofleidio, mae’n rhoi dillad iddo, modrwy (arwydd o dderbyniad i’r teulu) a pharti mawr. Mae’r tad yn ymddwyn yn rasol tuag ato.
Beth amdanom ni? Nid oes dim drygioni yn rhy fawr i Dduw ei faddau – mae’n derbyn pwy bynnag sy’n edifarhau. Mae Duw am i ni droi yn ôl ato, fel y gwnaeth y man ieuengaf, ac o wneud hyn fe fydd Duw yn ein derbyn yn llawen.
2. Y brawd hŷn
Wrth adrodd yr hanes mae llawer o bobl yn anghofio am y mab hŷn. Ond gellir dadlau mai dyma’r mab pwysicaf – yr un mae Iesu eisiau i ni sylwi arno. Mae’r mab hŷn wedi byw gartref ei holl fywyd ac wedi ufuddhau i’w dad ar hyd yr amser. Yn allanol mae i weld yn ddyn da sy’n caru ei dad, ond gwelwn nad yw hyn yn wir wrth ystyried ei ymateb i’r gwahoddiad gan ei dad i ddod i mewn i’r wledd. Nid yw’r mab yma yn caru ei dad go iawn. Nid ei dad sy’n bwysig iddo, yn hytrach yr eiddo a’r hyn sy’n perthyn iddo. Hunanoldeb sy’n nodweddi ei galon, fel dengys adnodau 29-30. Mae’n disgwyl derbyn rhywbeth – nid yw’n ddim gwell na’r brawd iau!
Cofiwch wrth bwy mae Iesu yn dweud yr hanes yma – y Phariseaid. Pobl oedd yn meddwl eu bod yn gallu dilyn rheolau moesol ac felly gorfodi Duw i’w derbyn. Mae eu hymateb pan fo Duw, trwy Iesu, yn maddau i’r bobl bechadurus yn dweud cyfrolau am gyflwr eu calonnau mewnol. Roeddent yn hollol flin ac anhapus; ymateb oedd yn dangos nad caries at Dduw eu Tad oedd yn symbylu eu gweithredoedd da. Pe bydden nhw yn caru Duw, fe fyddent wedi llawenhau o weld pobl yn troi tuag ato ond roedden yn disgwyl fod yn rhaid i Dduw eu bendithio oherwydd eu gweithredoedd da.
Mae hyn yn berygl i ni heddiw. Ydych chi erioed wedi meddwl mai gwneud pethau da i blesio Duw yw Cristnogaeth? NA! Nid ydym yn gallu gwneud dim byd da i orfodi Duw i’n derbyn ni.
Fydd gwneud pethau fel darllen y Beibl, mynd i’r capel, bod yn glên gyda phobl byth yn ein gwneud yn dderbyniol i Dduw (er bod y pethau yma yn bethau gwerth eu gwneud). Fedrwn ni ddim dibynnu ar ddim byd yr ydym ni yn gallu gwneud er mwyn ennill ffafr Duw. Sylwch sut mae’r hanes yn gorffen – dydyn ni ddim yn clywed a aeth y mab hynaf i mewn i’r wledd. Y peth trist yw os nad oedd y mab hynaf wedi mynd i mewn i’r wledd, nid y pethau drwg roedd wedi eu gwneud oedd yn ei gadw allan, ond yr holl bethau da yr oedd yn meddwl ei fod wedi gwneud.
Hanfod gwir fodlonrwydd yw gwybod mai yn esgidiau’r mab ieuengaf yw y mae pob un ohonom yn sefyll mewn gwirionedd. Rydym i gyd wedi torri cyfraith Dyw, fedrwn ni byth orfodi Duw i’n derbyn a rhaid i ni ddychwelyd ato yn edifar. Trasiedi o’r mwyaf yw gweld pobl, fel y mab hynaf, yn methu mynd i’r nefoedd gan eu bod yn meddwl fod eu gweithredoedd da yn ddigonol.
3. Y tad sy’n caru
Beth sy’n rhyfeddol yn y stori yw cariad y tad tuag at ei ddau fab. Mae’r ddau fab yn trin eu tad yn ofnadwy, ond mae’r tad yn parhau i’w caru. Mae’n derbyn y mab ieuengaf, ac mae’n mynd allan i wahodd y mab hynaf i’r wledd. Dyma gariad sy’n costio’n ddrud iddo ym mhob ffordd.
Digon bychan yw cariad y tad yn y stori o’i gymharu â’r cariad mae Duw wedi ei ddangos tuag atom ni. Mae Duw yn ein caru gymaint nes ei fod wedi anfon ei fab ei hun i farw trosom. Fedrwch chi a fi ddim gwneud dim byd i geisio ennill ffafr Duw. Mae Duw yn berffaith ac os ydym ni yn onest gyda’n hunain rydym yn gwybod ein bod ni’n bell o gyrraedd safon perffaith Duw yn ein bywydau. Mae’n rhaid i Dduw gosbi drygioni (Sut Dduw fyddai e pe bai yn anwybyddu drygioni?) ac felly rydym ni yn haeddu cael ein cosbi. Ond gan fod cariad Duw mor fawr, fe roddodd Iesu Grist ei unig fab i farw ar groes, a chymryd y gosb yr oeddech chi a fi yn ei haeddu.
Os ydym yn troi (fel y mab ieuengaf) at Dduw gan ddweud sori am ein drwg a phwyso ar Iesu Grist gan ofyn i Dduw ein derbyn, mae Duw yn addo gwneud hynny.
Ar ddiwedd y stori, mae yna wledd. Mae adnabod Duw a bod mewn perthynas â fe fel bod mewn gwledd fawr… am byth. Nid yn unig fod Duw yn addo bod gyda ni i’n cynnal ni yn y bywyd yma ond mae’n addo ein derbyn yn y nefoedd lle cawn ei fwynhau ef am byth – y tad sydd wedi rhoi gymaint i’n caru.
Felly dyma her a sialens i ni o’r stori hon. Mae Duw yn ein caru fel y tad yma yn y ddameg. Paid byth â meddwl y medri ddibynnu ar wneud pethau da i dderbyn ffafr Duw – mae hwnnw yn gamgymeriad ofnadwy mae llawer o bobl yn wneud. Paid meddwl chwaith y medri di fynd dy ffordd dy hun heb Dduw. Yn hytrach tro at Dduw heddiw, pwysa ar Iesu Grist a gofyn iddo dy dderbyn. Beth fydd ymateb Duw?
Gwelodd ei dad e’n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a’i gofleidio a’i gusanu.
Luc 15:20