Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Salm 1 – Bod yn Hapus

1 Ionawr 2019 | Gan Debs Job

Beth yw dy ddymuniad dros dy deulu a dy ffrindiau am y flwyddyn sydd o’n blaen?

Mae’r rhan fwyaf ohonom am fod yn hapus…

Ond beth yw ystyr hyn? Yn sicr mae llawer o siarad am anhapusrwydd ymysg pobl ifanc y dyddiau yma… gor-bryder, hunan-anafu, bwlio a straen

Mae’r Salm gyntaf yn siarad am hapusrwydd. Hapusrwydd nad yw’n dibynnu ar ein hamgylchiadau a’r hyn sy’n mynd ymlaen yn ein bywyd.

Mae’r Salmydd (y person ysgrifennodd y Salm) yn galw person sy’n profi’r hapusrwydd yma fel un sydd wedi ei fendithio yn fawr.

Cyn mynd ymlaen, darllena’r Salm (isod, neu ewch draw i Beibl.net)

1 Gwyn ei fyd y sawl nad yw’n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,
2 ond sy’n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
3 Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a’i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.
4 Nid felly y bydd y drygionus, ond fel us yn cael ei yrru gan wynt.
5 Am hynny, ni saif y drygionus yn y farn na phechaduriaid yng nghynulleidfa’r cyfiawn.
6 Y mae’r ARGLWYDD yn gwylio ffordd y cyfiawn, ond y mae ffordd y drygionus yn darfod.

Mae’r Salm yn cyferbynnu pobl ddrwg a phobl sy’n dilyn yr Arglwydd (yn gyfiawn). Wrth edrych ar y Salmau rhaid cofio gwneud hynny drwy sbectol arbennig – drwy sbectol gweddill y Beibl! Nid yw cyfiawn yma yn golygu person da yn unig. Mae’n golygu person sydd yn iawn gyda Duw oherwydd eu bod wedi credu yn Iesu ac wedi cael maddau eu pechod drwy ei farwolaeth ar y groes. Dyma’r rhai sy’n iawn o flaen Duw, yn wahanol i’r bobl ddrwg – y rhai sydd heb drystio yn Iesu ac felly ddim yn gyfiawn o flaen Duw.

Sut mae’r Salmydd yn disgrifio pobl sydd wedi eu bendithio?

  1. Beth i beidio â gwneud:

Gwrando ar gyngor pobl ddrwg – os wyt ti am fod yn hapus yna rhaid i ti beidio â gwrando ar hyn sydd gan gymaint o’r byd o’n cwmpas i’w ddweud. Mae gan y rhai nad ydynt yn adnabod na charu Duw olwg hollol wahanol ac anghywir ar y byd a’r hyn sy’n bwysig. Mae’r lleisiau’n gryf heddiw yn ein hannog i wneud yr hyn sy’n teimlo yn iawn a chanolbwyntio’n ormodol arnom ni ein hunain. Cawn ein hannog i gael ein hunaniaeth o’n teimladau, sut ydym yn edrych, ein poblogrwydd neu o faint o ‘likes’ a gaiff rhywun ar lun proffil newydd – mae’n hawdd colli golwg ar yr hyn sy’n bwysig. Ychydig iawn o bobl sy’n dilyn y Beibl ac yn rhoi sylw i Dduw heddiw, ac felly mae’n bwysig peidio dilyn eu cyngor.

Cadw cwmni pechaduriaid – y peth nesaf i osgoi er mwyn bod yn hapus yw byw mewn ffordd sy’n groes i’r hyn y mae Duw ei eisiau. Nid yw’r adnodau yma yn golygu y dylem osgoi pawb sy’n bechaduriaid (mae pob un ohonom wedi pechu), ond mae yn golygu fod yn rhaid i ni osgoi pobl a sefyllfaoedd sy’n ein hannog i fynd yn groes i ffyrdd Duw. Gall gwneud yr hyn yr ydym ni am ei wneud – siarad y tu ôl i gefn pobl, rhyw, yfed a bod yn hunanol roi hapusrwydd tymor byr, ond ni fyddant yn bodloni yn y diwedd. Mae Duw wedi ein creu i bethau llawer gwell.

Eistedd gyda’r rhai sy’n dilorni – er mwyn bod yn wirioneddol hapus rhaid i ni osgoi a pheidio ymuno gyda phobl sy’n chwerthin ac yn gwatwar Duw, ei ffyrdd a phobl eraill.

Beth i’w wneud:

Bod wrth ein bodd yn gwneud beth mae’r Arglwydd eisiau ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu (sef y gyfraith) ddydd a nos – mae’r person sydd yn wirioneddol hapus yn meddwl am, ac yn dilyn, Duw a’i air (Y Beibl). Yn y Beibl dysgwn beth sy’n wir am Dduw, cawn ei ddoethineb, a gwelwn y newyddion da am Iesu a’r hyn a wnaeth drosom.

Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Ioan 3:16

Wrth ddilyn ei air a threulio amser gyda Duw byddwn yn darganfod gwir hapusrwydd.

Coeden

Mae’r rhai cyfiawn (y rhai sydd yn iawn gyda Duw) yn cael eu disgrifio fel coeden. Dychmyga goeden sydd wedi ei phlannu wrth nant o ddŵr – mae gan y goeden y cyfan sydd ei angen er mwyn tyfu yn gryf ac iach gan roi digonedd o ffrwyth. Dyma beth yw gwir hapusrwydd.

Us

Yn wahanol i’r goeden, mae’r rhai drygionus (y bobl sydd ddim yn iawn gyda Duw ac yn dilyn eu ffyrdd eu hunain) yn cael eu disgrifio fel us. Us yw’r stwff sydd ar ôl wedi i’r cynhaeaf gael ei gasglu – yr ysbwriel sy’n dda i ddim ac yn cael ei chwythu gan y gwynt. Mae bywyd y bobl yma yn simsan ac yn cael eu heffeithio gan yr hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.

Dwy ffordd

Mae’r Salm yn gorffen gyda dwy ffordd. Bydd y rhai drwg yn darfod a fyddan nhw ddim yn gallu sefyll pan fydd Iesu yn dod ‘nôl i farnu’r byd. Ond mae Duw yn gofalu am y rhai sy’n ei ddilyn gan ei fod yn eu hadnabod a’u caru.

Er mwyn cael bywyd hapus rhaid i ni ystyried sut y medrwn sefyll pan fydd Iesu yn dod yn ôl i farnu’r byd. Dim ond trwy gyfiawnder Iesu y bydd modd gwneud hyn. Dyma Iesu yn byw heb bechod a heb wneud dim yn ddrwg, ond yn lle derbyn y clod yr oedd yn ei haeddu, fe gymerodd y gosb yr oeddem ni yn ei haeddu am ein pechod drwy farw ar y groes.

Os ydym wedi rhoi ein ffydd yn Iesu medrwn sefyll o flaen Duw gan fod gennym gyfiawnder Iesu.

Dyma newyddion da y medrwn orffwys ynddo ac a fydd yn ein gwneud yn hollol hapus a dedwydd. Nid yw’r hapusrwydd yma yn dibynnu arnom ni, neu’r hyn yr ydym ni yn ei wneud – yn hytrach mae’n ddibynnol ar Iesu, yr un sydd byth yn newid a’r un sy’n ein caru.