Derbyniol
2 Medi 2017 | Gan John Treharne
Mae cael ein derbyn yn bwysig iawn i bawb. Does neb wir yn hoffi’r teimlad o gael ei wrthod. Pa fath o bobl ydych chi’n fwyaf awyddus i gael eich derbyn ganddyn nhw?
Mae ffrindiau yn werthfawr iawn, ac yn bwysig tu hwnt i ni gyd. Mae’n braf iawn i deimlo bod gennym ni ffrindiau a’n bod yn perthyn i’r criw. Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn dangos diddordeb yn yr un pethau; rhaglenni teledu, cerddoriaeth, ffilmiau a dillad. Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwrthod gan ffrindiau mae’n gallu effeithio’n fawr arnyn nhw. Mae modd iddynt deimlo nad oes neb yn y byd yn eu hoffi; neb yn eu caru am nad ydyn nhw’n ddigon da mewn rhyw ffordd.
Mae cael ein derbyn gan ein teulu yn hynod o bwysig i ni hefyd, ac mae’n braf gwybod bod ein teulu yn ein derbyn ac yn ein caru. Mae’n straen ofnadwy i deimlo bod rhaid i ni gyrraedd rhyw safon uchel er mwyn plesio’n rhieni: cael marciau da yn yr ysgol efallai neu berfformio’n wych yn y byd chwaraeon neu basio arholiadau piano.
Mae cael ein derbyn gan gymdeithas yn rhywbeth dymunol iawn hefyd. Mae gan ein cymdeithas ni syniadau pendant am beth sy’n ‘normal’ ac yn dderbyniol. Enwogion y sgrin fawr neu’r byd pop sy’n gosod y safon yn aml iawn. Maen nhw’n edrych yn dda ac yn llwyddiannus tu hwnt a phan fydd ein profiad ni’n wahanol mae’n gallu creu diflastod mawr a diffyg hyder.
Yn fwy na dim, mae’n gallu bod yn anodd i ni dderbyn ein hunain. Mae llawer o bobl yn tueddu i feddwl yn isel iawn amdanyn nhw eu hunain.
Mae’r pwysau yma i gael ein derbyn yn aml yn ein gyrru i geisio newid ein hunain, i geisio bod yn wahanol. Ond cael ein siomi a wnawn.
Er pwysiced i ni yw derbyniad pobl eraill, y Person allweddol i gael ein derbyn ganddo yw Duw. Yn wir, dyma’r allwedd i bob un o’r sefyllfaoedd eraill. Does dim pwynt straffaglu i gael ein derbyn gan hwn a hon os nad ydyn ni’n dderbyniol gan Dduw. Dyma beth mae Efengyl Iesu Grist yn ei threfnu ar ein cyfer ni.
Dyma dri rheswm pam bod cael ein derbyn gan Dduw mor bwysig:
1. Ein Creawdwr
Duw sydd wedi ein creu ni. Cawsom ein creu ganddo Ef ac er ei fwyn Ef, er mwyn dangos ei fawredd, ei allu a hefyd ei gariad a’i ras. Rydym yn gwneud hyn trwy ei adnabod, ei addoli, ei garu a dod yn debycach iddo.
Ond mae ein pechod wedi ein gwneud yn ddiarth iddo, wedi’n harwain i droi cefn arno, ei amau a’i ddrwgdybio. Oherwydd hyn rydym ni’n gwneud drygioni, ac wedi mynd yn bell iawn oddi wrtho:
Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl! Does neb sy’n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un! Mae eu geiriau’n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau. Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau. Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd. Maen nhw’n barod iawn i ladd; mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman, dyn nhw’n gwybod dim am wir heddwch. Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl. Rhufeiniaid 3:10-18
2. Ein Barnwr
I Dduw ein creawdwr y bydd rhaid i ni ateb am ein bywyd. A bod yn fanwl gywir, Iesu Grist, Duw’r Mab, fydd y Barnwr. Cafodd y byd ei greu drwyddo Ef.
Bydd yn rhaid i bawb ddod o’i flaen i roi cyfrif am ei fywyd ar y ddaear:
Mae e wedi dewis diwrnod pan fydd y byd i gyd yn cael ei farnu. Bydd y farn yna’n gwbl deg. Mae wedi dewis dyn i wneud y barnu, ac mae wedi dangos yn glir ei fod yn mynd i wneud hyn drwy ddod â’r dyn hwnnw yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Actau 17:31
Os na fyddwn yn dderbyniol gan Iesu Grist bryd hynny mi fydd yn ofnadwy arnom ac Uffern fydd ein tynged ni am byth.
3. Ein Cefnogwr
Rheswm arall pam mae mor bwysig i gael ein derbyn gan Dduw yw am mai Ef yw’n Cefnogwr mwyaf.
Meddyliwch am funud am gefnogwyr timau rygbi neu bêl-droed. Maen nhw’n hoffi gwisgo’r un dillad â’u tîm. Gwisgo crys Cymru neu’r Scarlets neu Lerpwl efallai. Weithiau bydd rhai yn cael crys gyda rhif neu enw eu hoff chwaraewr arno hefyd. Bydd rhai yn cael eu hwynebau wedi’u paentio ar gyfer gêm fawr. Draig goch efallai, neu fathodyn Manchester United. Mae’r cefnogwyr mwyaf eithafol yn cael tatŵ ar eu corff i ddangos eu cefnogaeth am byth!
Roedd Iesu yn Dduw yn y Nefoedd, ond daeth i’r ddaear fel dyn a gwisgo cnawd fel ein cnawd ni, er mwyn dod â ni nôl at Dduw.
Pan ddigwyddodd hynny, doedd dim troi nôl! Mae Iesu Grist yn dal i fod yn Dduw-ddyn yn y nefoedd heddiw, ac felly y bydd am byth.
Profodd beth yw bywyd plentyn, yr arddegau, bywyd oedolyn a dioddefodd boenau erchyll a marwolaeth ar y groes. Roedd yn fodlon wynebu temtasiwn fel ni. Cafodd ei demtio’n aml iawn gan y Diafol i bechu yn erbyn Duw, ond gwrthododd blygu. Doedd dim pechod ynddo o gwbl. Cafodd ei fedyddio fel dyn, er nad oedd angen ei olchi’n lân. Aeth i’r groes dros ein pechodau:
Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a’i ddryllio am ein camweddau ni; ‘roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Eseia 53:5
Cododd o’r bedd yn fyw i ddangos beth fydd yn digwydd i bawb sy’n credu ynddo un dydd. Cododd i’r nefoedd i baratoi lle i’w gyfeillion. Y mae yno yn gweddïo trosom, ac yn anfon yr Ysbryd Glân i fod gyda ni. Bydd yn dod yn ôl ar ddiwedd y byd i gasglu pawb sydd wedi credu ynddo i fod gydag Ef mewn Nef a Daear newydd.
Y mae popeth mae Iesu Grist wedi gwneud, ac yn parhau i’w wneud, er mwyn ei bobl.
Dyma’r person allweddol i’w adnabod a chael ein derbyn ganddo.
Os ydym am gael ein derbyn rhaid i ni gyffesu ein pechod a’n pellter oddi wrth Dduw. Rhaid i ni gredu yn Iesu Grist ein Cefnogwr, ein Hachubwr a’n Harglwydd.
Rhaid credu ei fod yn gefnogwr i ni’n bersonol, gan ofyn iddo’n derbyn yn llwyr, oherwydd dyna’i addewid:
a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy’n dod ata i. Ioan 6:37
Mewn byd sy’n llawn tristwch ac amheuaeth a diffyg derbyniad i gymaint o bobl, mae’n gysur mawr gwybod fod Crist am ein derbyn fel yr ydym.
A wnei di droi ato heddiw i gael dy dderbyn?
Warning: Illegal string offset 'resource_pdf' in /home/customer/www/llwybrau.org/public_html/wp-content/themes/llwybrau/single.php on line 40