Cynllun Darllen Tröedigaeth
30 Ebrill 2018

Rhannu
Beth yw tröedigaeth?
O dywyllwch i oleuni,
o farwolaeth i fywyd,
o fod yn gaeth i fod yn rhydd,
o fod yn elynion i Dduw i ddod yn blant iddo,
mae llawer o ddelweddau yr ydym yn eu clywed neu wedi eu darllen sy’n disgrifio’r profiad o ddod yn Gristion. Dyma’r hyn y byddwn yn edrych arno dros y dyddiau nesaf wrth i ni ddarllen y Beibl gyda’n gilydd. Byddwn yn edrych ar fywydau rhai unigolion a gafodd dröedigaeth, gan ddysgu o’u profiad ac edrych ar y broses o beth sydd yn digwydd i berson pan gawn nhw dröedigaeth.
Mae pob Cristion wedi cael tröedigaeth, ond beth mae hyn yn ei feddwl? A yw pawb yn cael tröedigaeth yr un fath? Wyt ti wedi cael tröedigaeth?
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Os oes gen ti gwestiynau neu eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Mae hefyd modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop ein gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram.