Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Cynllun Darllen Efengyl Marc

28 Medi 2017

Rhannu

Ysgrifennodd Marc am fywyd Iesu Grist am ei fod yn dymuno i’w ddarllenwyr wybod y newyddion da am Iesu ac er mwyn iddynt gredu ynddo. Doedd e ddim am aros yn dawel ynglŷn â’r newyddion anhygoel yma! Pwrpas yr astudiaethau Beiblaidd hyn yw edrych ar fywyd a marwolaeth Iesu Grist ac ystyried beth mae hynny’n ei olygu i ti.

Mae pennod 8 yn drobwynt yn Efengyl Marc. Mae Iesu’n troi tuag at Jerwsalem ac yn cychwyn ar ei daith tua’r groes. Mae’n amlwg bod Marc yn teimlo mai marwolaeth Iesu yw’r peth pwysicaf am ei fywyd – mae hanner cyntaf yr efengyl yn delio â 3 blynedd, a’r ail hanner â chyfnod byr iawn! Yn yr hanner cyntaf mae Marc yn canolbwyntio ar bwy yw Iesu, ac mae’n cyrraedd uchafbwynt gyda datganiad dramatig Pedr yn adnod 29 o bennod 8. Mae ail hanner yr efengyl yn canolbwyntio ar pam ddaeth Iesu ac ar ei farwolaeth ar y groes.

Mae’r darlleniadau wedi eu rhannu’n 31 rhan, gyda chwestiynau ar gyfer pob diwrnod o’r mis. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw yn siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.

Tanysgrifiwch yma i dderbyn y cynllun darllen dros ebost