Gwneud Marc 23 – Gobaith i Bawb
26 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
23 – Gobaith i Bawb
Marc 7:24-30
Cychwynnodd oddi yno ac aeth ymaith i gyffiniau Tyrus. Aeth i dŷ, ac ni fynnai i neb wybod; ond ni lwyddodd i ymguddio. Ar unwaith clywodd gwraig amdano, gwraig yr oedd gan ei merch fach ysbryd aflan, a daeth a syrthiodd wrth ei draed ef. Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl; ac yr oedd yn gofyn iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. Meddai yntau wrthi, “Gad i’r plant gael digon yn gyntaf; nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.” Atebodd hithau ef, “Syr, y mae hyd yn oed y cŵn o dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.” “Am iti ddweud hynny,” ebe yntau, “dos adref; y mae’r cythraul wedi mynd allan o’th ferch.” Aeth hithau adref a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a’r cythraul wedi mynd ymaith.
Geiriau Anodd
- Cyffiniau: Ardal.
- Syroffeniciad o genedl: Yn dod o ardal Ffenicia, ac felly ddim yn Iddew.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi gorfod ymbil ar rywun i’ch helpu chi?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n meddwl bod Iesu i’w weld mor galed wrth y wraig?
Mae’r hanes hwn yn un anodd i’w ddeall, ac felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ymwybodol o’r cyd-destun. Y bobl roedd Iesu wedi dod atynt oedd yr Iddewon. Dyma oedd y bobl roedd Duw wedi penderfynu y byddai mewn perthynas arbennig â nhw. Wedi dweud hynny, mae’r Hen Destament hefyd yn dweud yn glir y bydd yr holl fyd yn cael ei fendithio drwy’r Iddewon. Pan ddaeth Iesu i’r byd, dod fel Brenin yr Iddewon a wnaeth. Rhan o drefn Duw oedd y byddai ei bobl ei hun yn ei wrthod, a thrwy yr aberth a gynigodd ar y groes y byddai rhyddid i unrhyw un i ddod i berthynas â Duw.
Yn ystod y cyfnod pan oedd Iesu yn gwneud ei waith ymhlith yr Iddewon, dyma wraig o wlad arall yn dod ato er mwyn gofyn iddo helpu ei merch. Ymateb Iesu iddi oedd fod yr amser heb ddod eto, ond yn hytrach fod rhaid i’r newyddion da gael ei gynnig i’r Iddewon yn gyntaf. I wneud hyn mae’n defnyddio’r darlun o gymryd bwyd oddi ar blât plant y teulu er mwyn bwydo’r cŵn.
Mae ffydd y fenyw yn drawiadol. Yn hytrach na digalonni neu wylltio, mae hi’n derbyn y ffaith nad yw hi’n haeddu dim, ac yn defnyddio’r un darlun i’w mantais. Mae’r cŵn yn dal i gael eu bwydo, naill ai gan y plant eu hunain neu gyda gweddillion y bwyd. Mae’n amlwg yn credu y byddai helpu ei merch yn beth mor fach i Iesu â briwsion yn syrthio oddi ar fwrdd.
Unwaith eto rydym yn gweld mai ffydd rhywun sydd yn bwysig, nid o ba wlad roedden nhw’n dod. Y newyddion da i ni heddiw yw fod gwahoddiad bellach i bawb o bob cenedl i ddod at Iesu, i gael eu mabwysiadu yn blant i Dduw, ac i gael eu digoni.
Cwestiwn 3
Ydych chi’n meddwl fod Duw weithiau yn profi eich ffydd?
Cwestiwn 4
Pa wersi allwn ni eu dysgu gan agwedd y wraig?
Gweddïwch
am y gallu i fyw mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn blentyn i Dduw, a diolchwch iddo ei fod yn derbyn unrhyw un sy’n dod ato mewn ffydd.