Cynllun Darllen Gweddi
6 Mehefin 2018

Rhannu
Cynllun Darllen Gweddi
Mae gweddi bwysig iawn i’r Cristion. Trwy weddïo rydym yn siarad gyda Duw – ein Tad nefol. Pwrpas yr astudiaethau hyn yw dy helpu i ddeall beth yw gweddi ac i dy helpu i weddïo. Mae Duw am i ni droi ato mewn gweddi ac mae wedi rhoi digon o help i ni yn y Beibl i ddeall sut i wneud hynny. Gobeithio y bydd yr astudiaethau yma’n gymorth i ti.
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Os oes gen ti gwestiynau neu eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Oes yna rhyw adnod neu rhywbeth byddet ti’n hoffi cael i helpu di i weddïo? Rho syniadau i ni! Mae modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop y gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram – @Llwybrau.