Gwneud Marc 42 – Gwir Addoliad
20 Mai 2020 | Gan Emyr James
42 – Gwir Addoliad
Marc 12:28-34
Daeth un o’r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “Prun yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl?” Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw’r unig Arglwydd, a châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl ac â’th holl nerth.’ Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na’r rhain.” Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef. Ac y mae ei garu ef â’r holl galon ac â’r holl ddeall ac â’r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na’r holl boethoffrymau a’r aberthau.” A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, “Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.
Geiriau Anodd
- Câr: Dangosa gariad.
- Meddylgar: Yn ddoeth, wedi meddwl cyn ateb.
Cwestiwn 1
Beth mae’n ei olygu i addoli rhywbeth?
Cwestiwn 2
Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bosibl caru Duw ac eraill mewn ffordd mor eithafol?
Hyd yn hyn, y cyfan rydym wedi’i weld o’r Phariseaid, y Sadwceaid a’r ysgrifenyddion yw eu bod yn cenfigennu wrth Iesu ac yn ceisio ei dwyllo er mwyn cael gwared arno. Felly pan ydym yn clywed geiriau’r dyn hwn o’u plith, mae’n dod fel tipyn o sioc i sylweddoli efallai ei fod wir am glywed yr hyn oedd a gan Iesu i’w ddweud.
Mae’n amlwg fod Iesu wedi gwneud tipyn o argraff arno yn y ffordd yr oedd wedi ateb cwestiynau eraill, felly mae’r dyn yn holi beth mae Iesu yn meddwl yw gorchymyn pwysicaf y gyfraith Iddewig. Dydy e ddim yn dweud pam mae eisiau gwybod yr ateb – efallai ei fod am sicrhau y bydd yn gwneud y peth yna, neu efallai ei fod am weld beth yw blaenoriaethau Iesu, neu mae hyd yn oed yn bosibl ei fod eisiau gweld a oedd Iesu’n cytuno â’r hyn roedd e’n ei feddwl yn barod.
Mae Iesu unwaith eto yn rhoi ateb hollol syfrdanol. Roedd Duw wedi rhoi cyfraith i’w bobl oedd yn dangos y safon berffaith roedd yn ei disgwyl ganddynt. Mewn ffordd yr hyn mae Iesu’n ei wneud yw crynhoi’r gyfraith hon i gyd i ddau orchymyn. Yn gyntaf mae’n rhaid cydnabod y gwir Dduw a’i garu i’r eithaf. Yn ail mae’n rhaid caru pobl eraill gymaint ag ydyn ni’n caru ein hunain, a’u trin nhw fel y bydden ni’n hoffi cael ein trin. Er syndod mawr, mae’r dyn yn cytuno! Mae e’n gallu gweld fod angen i’r ddau beth hyn fod yn sylfaen i’n bywyd, ac mai’r hyn mae Duw eisiau gennym ni yw ein bod yn ei addoli ac yn gwasanaethu eraill yn ein calon – nid ar y tu allan yn unig.
Y cwestiwn y mae’n rhaid i ni ei ofyn yw beth arall oedd gan y dyn hwn i’w ddeall? Mae Iesu yn cydnabod ei fod yn agos iawn i’r deyrnas, ond dydy e ddim yno eto. Beth sydd angen ei newid? Dydy e ddim yn ddigon i ni sylweddoli yr hyn mae Duw yn ei ofyn gennym ni, os nad ydyn ni hefyd yn sylweddoli ein bod wedi methu. Oherwydd nad ydym wedi cyrraedd safan berffaith Duw, rydym ni angen rhywun sydd wedi llwyddo er mwyn ein cynrychioli – a’r person hwnnw yw Iesu.
Cwestiwn 3
Pam ydych chi’n meddwl mai dyma’r pethau pwysicaf yng ngolwg Duw?
Cwestiwn 4
Ym mha ffyrdd ydyn ni’n gallu addoli Duw?
Gweddïwch
y bydd Duw yn eich galluogi i’w garu â phopeth sydd ynoch chi, a phobl eraill fel rydych yn eich caru eich hun.