Cwrdd â Iesu
17 Medi 2019 | Gan Emyr James

Rhannu
Mae’r Arglwydd Iesu Grist yn ein galw ni i gyd i fod yn ddisgyblion iddo fe. Yn ei gariad mae e wedi marw yn ein lle ni er mwyn i ni dderbyn maddeuant pechodau. Mae e wedi gwneud popeth sydd ei angen er mwyn i ni gael bywyd tragwyddol a pherthynas cywir gyda Duw! Mae’n gwahodd unrhywun i ddod:
Mathew 11:28 Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.
Ac mae’n addo derbyn unrhywun sy’n dod ato fe:
Ioan 6:37 Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi, ac ni fwriaf allan byth mo’r sawl sy’n dod ataf fi.
Yn y cynllun darllen yma byddwn ni’n dysgu am nifer o bobl wnaeth gwrdd ag Iesu yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear. Mae rhai ohonyn nhw’n amlwg yn derbyn Iesu fel Arglwydd ac achubwr eu bywyd, tra bod eraill i’w weld yn gwrthod. Tybed beth fydd ein hymateb ni i Iesu?