Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 43 – Mab Dafydd

20 Mai 2020 | Gan Emyr James

43 – Mab Dafydd

Marc 12:35-37

Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, “Sut y mae’r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd? Dywedodd Dafydd ei hun, trwy’r Ysbryd Glân: ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed.”‘ Y mae Dafydd ei hun yn ei alw’n Arglwydd; sut felly y mae’n fab iddo?” Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno’n llawen.

Geiriau Anodd

  • Deheulaw: Llaw dde.

Cwestiwn 1

Pa fath o berson byddech chi’n galw yn ‘Arglwydd’?

Cwestiwn 2

Felly pwy fyddai’r Brenin Dafydd wedi ei alw’n Arglwydd?

  Rydyn ni wedi clywed y teitl Mab Dafydd sawl tro erbyn hyn. Yn yr adran hon mae Iesu yn ceisio dangos rhywbeth rhyfeddol i’r bobl amdano ef ei hun.

  Roedd y bobl yn derbyn fod y Meseia yn mynd i fod yn perthyn i Dafydd. Roedd wedi ei addo y byddai Duw yn codi rhywun o’r teulu hwnnw i fod yn Frenin. Ac yn wir, roedd Iesu yn rhan o’r teulu trwy ei dad cyfreithlon Joseff, a’i fam naturiol Mair.

  Ond mae Iesu am iddyn nhw weld fod rhywbeth mwy i’w ddweud am y Meseia. Mae’n gwneud hyn drwy ddyfynnu o salm (math o gân) a ysgrifennodd Dafydd. Mae’r salm yn dweud fod Duw

(yr Arglwydd) wedi dweud rhywbeth wrth berson arall sy’n cael ei alw ‘fy Arglwydd’. Mae’r ail berson yma yn derbyn statws mawr wrth i Dduw ei roi i eistedd yn y lle mwyaf pwysig, ar ei law dde.

  Mae Iesu’n dweud fod Duw yn siarad yn y salm â’r Meseia. Os yw Dafydd felly yn galw’r Meseia yn Arglwydd, yna mae dau beth yn wir. Yn gyntaf, er bod y Meseia yn cael ei alw’n Fab Dafydd, mae’n rhaid ei fod yn fwy pwysig na Dafydd, a chanddo fwy o awdurdod – mae’n Arglwydd ar y Brenin Dafydd hyd yn oed! Yn ail, mae’n amlwg fod y Meseia hwn roedd y bobl yn ei ddisgwyl yn bodoli gyda Duw pan gafodd y salm ei hysgrifennu. Os felly, mae’r hyn sydd gan Iesu i’w ddweud yn anhygoel. Fe yw’r Meseia sydd a mwy o nerth ac awdurdod ganddo na Dafydd. Yn fwy na hynny, cyn iddo ddod i’r byd roedd yn bodoli gyda Duw yn y nefoedd.

  Beth sy’n drist yn y sefyllfa hon yw fod y bobl yn llawenhau yn y ffordd roedd Iesu’n esbonio gair Duw iddyn nhw, hyd yn oed wrth iddo sôn fod Duw yn mynd i ddarostwng ei elynion. Roedd llawer o’r rhain yn mynd i wrthod Iesu, er eu bod wedi mwynhau gwrando ar yr hyn oedd ganddo i’w ddweud.

Cwestiwn 3

Sut mae gweld yr holl ffyrdd roedd pobl wedi siarad am Iesu gannoedd o flynyddoedd cyn iddo ddod yn rhoi sicrwydd i ni?

Cwestiwn 4

Sut ddylen ni ymateb wrth glywed mai Iesu yw Duw a’i fod wedi bodoli yn y nefoedd ers cyn creu’r byd?

Gweddïwch

gan ddiolch i Dduw am ei Frenin sy’n mynd i gosbi pob peth drwg a’i elynion i gyd.