Genesis 1-11
1 Gorffennaf 2019

Rhannu
Pwrpas yr astudiaethau hyn yw dy helpu i ddarllen 11 pennod gyntaf llyfr Genesis. Gan fod Genesis yn rhoi hanes dechrau’r byd mae wedi cael mwy o sylw a mwy o gwestiynau yn cael eu gofyn amdano nag unrhyw un o lyfrau eraill y Beibl. Ond, nid llyfr gwyddonol yw Genesis na chwaith rhyw lyfr hudol yn rhoi manylion sut y daeth y byd i fod. Llyfr yw am Dduw. Ystyr Genesis yw dechrau, ac felly byddwn yn dysgu am ddechrau’r byd, dechrau pobl, dechrau problemau a dechrau cynllun Duw i’n hachub ni!
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Felly paid â disgwyl y byddi’n darllen am ddinosoriaid yn Genesis – fyddi di ddim. Paid chwaith â meddwl y cei wybod sut wnaeth Duw greu’r bydysawd. Be gei di yma yw gwybod pwy yw Duw, pwy wyt ti a pham rydym ni ar y ddaear yma. Felly heb oedi mwy… i ffwrdd â ni!