Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Arfogaeth Duw

7 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard
Arfogaeth

Rhannu

Mae bod yn Gristion yn beth anhygoel…

…cael perthynas gyda Duw drwy’r Arglwydd Iesu Grist, gwybod bod dy holl bechodau wedi eu maddau, gwybod bod Duw yn trefnu bod popeth yn cydweithio er dy les… Mae’r rhestr yn ddiddiwedd! O ganlyniad i’r cariad yma mae Duw wedi dangos tuag ato, mae’r Cristion eisiau byw i Dduw.

Ond fel Cristion, mae gennyt ti elyn

Mae’r gelyn yma eisiau dy weld yn troi dy gefn ar Dduw ac mae’n dy demtio i wneud yr hyn sydd yn erbyn ewyllys Duw. Yn anffodus mae’r Cristion yn cwympo i’r temtasiynau yma ar adegau. Mae hyn yn gallu arwain at sefyllfa lle mae’r Cristion yn teimlo’n euog, yn teimlo’n drist a theimlo bod Duw yn bell. Wyt ti’n teimlo fel hyn weithiau? Paid digalonni, mae angen i ti redeg yn syth at Dduw i gyffesu ei bechod a derbyn maddeuant parod (1 Ioan 1:9).

Ond tydi Duw heb ein gadael ar ben ein hunain

Yn Effesiaid 6:10-19 mae Paul yn sôn am wisgo arfogaeth i amddiffyn y Cristion rhag ymosodiadau’r diafol. Duw sydd wedi paratoi’r arfogaeth yma, ac felly mae wedi ei chynllunio’n berffaith ar gyfer y dasg. Mae’n hanfodol gwisgo’r arfogaeth ysbrydol yma.

Ond sut ydym i fod i’w gwisgo? Mae’r Cristion yn wan ynddo’i hun, felly mae angen “ymgryfh[au] yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef” (Effesiaid 6:10). Sut wyt ti i fod i ymgryfhau (darganfod nerth) yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef? Mae gennyt Dduw cryf a graslon, felly gweddïa ar Dduw a gofynna am ei help, ei gymorth, a’i nerth.

Y peth sy’n anhygoel ac yn gysur mawr yn y frwydr yw ein bod yn gwybod pwy sy’n mynd i ennill. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod Iesu wedi ennill y frwydr drwy farw ar y groes ac atgyfodi’n fyw; maeddodd bechod, marwolaeth a’r diafol. Ac ar ddiwedd amser byddwn yn ei weld ef yn dod yn ôl yn ei ogoniant a’i fuddugoliaeth derfynol.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn edrych yn fanylach ar yr arfogaeth y mae Duw wedi ei darparu ar ein cyfer.

Rhan 1 – Arfogaeth Duw: Gwirionedd