Arfogaeth Duw: Gwirionedd
7 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard

Rhannu
Pwrpas gwregys
Arferai milwyr wisgo dillad hir a fyddai’n mynd yn y ffordd wrth ymladd, felly byddai’r dillad yn cael eu clymu wrth y gwregys i alluogi’r milwr i ymladd yn effeithiol.
Gwirionedd
- Gwirionedd yn fan hyn yw Gair Duw.
- Y Beibl yw Gair Duw ac mae’n hollol wir a gallwn ymddiried yn llwyr ynddo.
- Dyma rai adnodau sy’n dangos y gallwn ddibynnu ar Air Duw.
- Yn Titus 1:2 mae Duw yn cael ei ddisgrifio fel y ‘digelwyddog Dduw’
- Mae Iesu yn dweud amdano ei hun yn Ioan 14:6 ‘Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd’
- Yn Eseia 40:8 mae’n dweud ‘Y mae’r glaswellt yn crino, a’r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth’
- Mae 2 Timotheus 3:16 yn dweud bod ‘pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw’.
Beth mae’n ei olygu i wisgo gwirionedd yn wregys am eich canol?
Mae’n golygu sawl peth:
- Rhoi ein hyder bod Gair Duw yn hollol wir
- Gwybod, deall a chredu gair Duw
- Trysori a charu gair Duw
- Gadael i air Duw deyrnasu ar bob rhan o’n bywyd, yn yr hyn rydym yn ei wneud, ein penderfyniadau ayyb
Sut mae’n help i ni yn y frwydr?
- Os yw’r diafol (‘tad pob celwydd’, Ioan 8:44), yn dy demtio i amau Gair Duw e.e. ‘A wnaeth Duw wir greu popeth?’ neu ‘A wnaeth Iesu wir atgyfodi? Does neb yn gallu atgyfodi ar ôl marw’, mae gwregys gwirionedd yn help i ti gan fod ein hyder yn Nuw a bod ei air ef yn wir. Rydym yn credu os yw Duw wedi ei ddweud e, yna mae’n wir.
- Os yw’r diafol dy demtio i gwestiynu a yw’r Beibl yn berthnasol i ti heddiw e.e. ‘Ydy dweud celwydd bach wir yn bechod?’ neu ‘Fi’n gwybod bod y Beibl yn dweud i wrando ar Dduw a dangos cariad Iesu trwy rhoi pobl eraill cyn dy hun, ond does dim rhaid i ti wneud e tro hyn’. Mae gwisgo gwregys gwirionedd yn help fan hyn gan ei bod yn golygu dy fod yn caru gair Duw a dy fod eisiau ufuddhau i Dduw ym mhob rhan o dy fywyd, yn y pethau mawr ac yn y pethau bach.
Sut ydym ni’n ei wisgo amdanom?
- Gweddïo am help Duw i gredu ei air ac i garu ei air yn fwy fel ei fod yn effeithio ar bob rhan o dy fywyd.