Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Arfogaeth Duw: Cyfiawnder

8 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard
Cyfiawnder

Rhannu

Pwrpas arfwisg ar dy ddwyfron

  • Y gair Saesneg am y rhan yma o’r arfogaeth yw ‘breastplate’. Fe fyddai’n amddiffyn organau pwysig y corff, yn enwedig y galon.

Cyfiawnder

  • Mae’r gair cyfiawnder yn dod o gyd-destun cloriannau a phwysau. Byddai’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cloriannau oedd yn hollol hafal, bod un ochr yn pwyso yn union yr un faint â’r ochr arall. Felly os yw rhywun yn gyfiawn, mae’n cyd-bwyso yn hollol â safon Duw, sef perffeithrwydd. Mae angen cyrraedd safon Duw er mwyn gallu cyrraedd y nefoedd ond mae’r Beibl yn glir bod pawb wedi methu â chyrraedd y safon yma – ‘Nid oes neb cyfiawn, nac oes un’ (Rhufeiniaid 3:10).
  • Y newyddion da yw bod yna ffordd i bobl sydd wedi methu â chyrraedd safon Duw i fod yn gyfiawn yng ngolwg Duw. Sut? Mae rhywun wedi gwneud y gwaith drostyn nhw. Drwy roi ei ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, mae person yn derbyn ei gyfiawnder ef. Nawr pan fydd Duw yn edrych arnat ti, mae’n gweld cyfiawnder Iesu.

Beth mae’n ei olygu i wisgo cyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron?

  • Os wyt yn gwisgo’r rhan yma o’r arfogaeth rwyt yn cofio dy fod yn dibynnu ar gyfiawnder perffaith Iesu i gael dy dderbyn gan Dduw, ac nid dy gyfiawnder dy hun.

Sut mae’n help i ni yn y frwydr?

  • Gall Satan geisio dy ddigalonni drwy bwyntio allan a dwyn i gof dy bechodau. Gall blannu amheuon yn dy feddwl a gwneud i ti feddwl na allai Duw byth dy garu oherwydd dy bechod neu hyd yn oed na elli di fod yn Gristion bellach oherwydd rhywbeth rwyt ti wedi ei wneud. Mae’r diafol yn ‘prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i’w lyncu’ – 1 Pedr 5:8.
  • Pan fydd y Beibl yn sôn am y galon, yn aml bydd yn golygu’r teimladau a’r emosiynau. Fel mae ‘breastplate’ y milwr yn amddiffyn ei galon, mae ‘breastplate’ cyfiawnder yn amddiffyn y Cristion rhag i ymosodiadau Satan ar ei deimladau lwyddo. Pan fydd Satan yn ymosod arnom yn y ffordd yma gallwn bwyntio at Iesu a’i gyfiawnder ef. Nid ydym i ddibynnu ar ein teimladau, ond dibynnu yn lle hynny ar gyfiawnder Iesu.

Sut ydym yn ei wisgo amdanom?

  • Gweddïo am help Duw i gofio pam mae Duw yn dy dderbyn, sef drwy gyfiawnder Iesu sydd wedi ei roi i ti.

Rhan 1 – Arfogaeth Duw: Gwirionedd

Rhan 3 – Arfogaeth Duw: Efengyl