Arfogaeth Duw: Efengyl
9 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard

Rhannu
Pwrpas esgidiau
- Pwrpas esgidiau’r milwr fyddai i’w atal rhag llithro a chwympo.
- Byddai’r esgidiau hefyd yn amddiffyn y traed rhag cael eu hanafu. Byddai cwympo mewn brwydr yn gallu arwain at ganlyniadau trychinebus i’r milwr.
Efengyl tangnefedd
- Ystyr y gair ‘efengyl’ yw newyddion da, ac ystyr y gair ‘tangnefedd’ yw heddwch gyda Duw.
- Felly efengyl tangnefedd yw’r newyddion da bod modd i bechaduriaid gael heddwch gyda Duw. Mae hyn yn beth anhygoel, o ystyried dy fod wrth natur yn elyn i Dduw. Ond y newyddion da yw bod Iesu Grist wedi gwneud ffordd i ti i allu cael heddwch gyda Duw trwy gymryd dy gosb arno ef ei hun a rhoi ei gyfiawnder i ti trwy ffydd ynddo ef.
Beth mae’n ei olygu i wisgo esgidiau paratoad efengyl tangnefedd?
- Mae’n golygu ein bod yn credu’r Efengyl, a’n bod ni hefyd yn deall yr Efengyl – yn gwbl glir ar beth yn union yw’r Efengyl (ac fel arall!). Os ydym yn wan fan hyn, gall y diafol ymosod ac achosi i ni gwympo.
- Hefyd mae’r ffaith mai esgidiau paratoad efengyl tangnefedd yw’r esgidiau yn dangos bod yr efengyl yn dy baratoi ac yn dy wneud yn barod ar gyfer beth bynnag ddaw ar dy draws yn dy fywyd. Gall treialon, cyfnodau anodd, dioddefaint o wahanol fathau i gyd ddod ar draws y Cristion a heb yr esgidiau fe all ei draed simsanu. Gall y cyfnodau yma hefyd ddod yn ddirybudd, felly mae’r pwyslais ar fod yn barod yn bwysig. Gall yr efengyl rhoi tangnefedd i chi dim ots beth ddaw ar eich traws yn y byd.
Sut maen nhw’n help i ni yn y frwydr?
- Mae Satan eisiau i ni fod yn ansicr ac yn ddihyder yn yr hyn rydym yn ei gredu. Os ydym yn ansicr o’r efengyl rydym yn ei chredu, gallwn gael ein twyllo i gredu pethau sydd ddim yn gywir. Mae’r diafol yn gallu ceisio ychwanegu at yr efengyl neu dynnu oddi wrthi e.e. ‘Doedd Iesu ddim wir yn Dduw’ neu ‘Mae pob crefydd yn arwain at Dduw yn y diwedd’.
- Mae esgidiau paratoad efengyl tangnefedd yn ein helpu i fod yn barod am yr ymosodiadau yma. Mae gwybod hanes Iesu yn maddau pechod y dyn wedi ei barlysu ac yn dangos ei fod yn Dduw ym Marc 2:5-12 a’r adnod ‘Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi’ – Ioan 14:6, yn ddwy enghraifft o amddiffyniadau rhag y ddau ymosodiad uchod. Mae’n bwysig i ni wybod beth rydym yn ei gredu.
Sut ydym yn eu gwisgo?
- Gweddïo am help Duw i fod yn sicr o’r hyn rydym yn ei gredu.
Rhan 2 – Arfogaeth Duw: Cyfiawnder
Rhan 4 – Arfogaeth Duw: Ffydd