Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 33 – Aberth a Gwobr

11 Mai 2020 | Gan Emyr James

33 – Aberth a Gwobr

Marc 10:17-31

Wrth iddo fynd i’w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o’i flaen a gofyn iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. Gwyddost y gorchmynion: ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a’th fam.'” Meddai yntau wrtho, “Athro, yr wyf wedi cadw’r rhain i gyd o’m hieuenctid.” Edrychodd Iesu arno ac fe’i hoffodd, a dywedodd wrtho, “Un peth sy’n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi.” Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer. Edrychodd Iesu o’i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!” Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw! Y mae’n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” Synasant yn fwy byth, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu all gael ei achub?” Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd, “Gyda dynion y mae’n amhosibl, ond nid gyda Duw. Y mae pob peth yn bosibl gyda Duw.” Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, “Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di.” Meddai Iesu, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl, na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy’n dod fywyd tragwyddol. Ond bydd llawer sy’n flaenaf yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.”

Geiriau Anodd

  • Camdystiolaethu: Dweud celwydd.
  • Camgolledu: Achosi colled i rywun.
  • Crau nodwydd: Y twll bach ar ben nodwydd.

Cwestiwn 1

Beth yw’r peth mwyaf pwysig yn eich bywyd chi?

Cwestiwn 2

Wrth edrych ar y darn, beth oedd yn cadw’r dyn rhag dilyn Iesu?

  Un o’r delweddau mwyaf poblogaidd o Gristnogion y gorffennol yw mynachod (monks). Roedd y bobl yma yn ymwrthod â’u holl arian ac eiddo, ac yn gadael eu teulu a’u ffrindiau er mwyn byw bywyd caled o dlodi. Roedden nhw’n gwneud hyn er mwyn treulio amser yn meddwl am Dduw, ac er mwyn dianc o demtasiynau’r byd.

  Wrth ddarllen geiriau Iesu fan hyn, mae’n rhwydd deall sut y gallai pobl feddwl mai dyma roedd Duw yn ei ddisgwyl. Ond ai dyna mae Iesu yn ei ddweud mewn gwirionedd? Dydyn ni ddim wedi ei glywed e’n dweud hynny wrth bawb, felly oes rhywbeth arbennig am y sefyllfa hon?

  Mae’r ateb i’w gael yn y frawddeg, “Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.” Wrth drafod safon berffaith Duw, mae’r dyn yn amlwg yn teimlo ei fod wedi gwneud popeth sydd ei angen er mwyn mynd i’r nefoedd. Ond pan mae Iesu’n awgrymu fod angen iddo roi ei eiddo i ffwrdd, mae’r syniad yn torri ei galon. Roedd hynny’n gofyn gormod. Yn amlwg y pethau oedd wir yn bwysig iddo ef oedd faint o arian oedd ganddo a beth roedd pobl yn meddwl ohono. Mae Iesu’n egluro fod pobl gyfoethog mewn perygl mawr, oherwydd fod dilyn Duw yn edrych iddyn nhw fel aberth fawr. Mae’n defnyddio’r enghraifft chwerthinllyd o gamel yn mynd drwy nodwydd, ac yn dweud fod hynny’n rhwyddach nag i berson cyfoethog fynd i’r nefoedd. Ac eto’r gwir yw na fyddai neb yn cael ei achub heb i Dduw weithio yn ei galon.

  Yr hyn sy’n dod yn amlwg yw nad yw aberthu popeth er mwyn dilyn Iesu Grist yn golled o gwbl. Yn gyntaf mae ei ddilynwyr yn derbyn yr holl freintiau o fod yn rhan o’i Eglwys. Ond mae hefyd yr addewid y byddan nhw’n derbyn gwobr yn y nefoedd – trysor llawer gwell, sy’n para am byth. Nid faint o arian sydd gennym yn y bywyd hwn sy’n ein gwneud ni’n gyfoethog, ond y ffaith ein bod wedi derbyn bywyd tragwyddol drwy gredu yn Iesu. Wedi’r cyfan, onid yw Duw gymaint yn well nag unrhyw beth y gall y byd ei gynnig?

Cwestiwn 3

Ydych chi’n meddwl eich bod ar eich colled o ddilyn Iesu?

Cwestiwn 4

Sut ddylai’r hyn mae Iesu yn ei ddweud effeithio ar y ffordd rydym ni’n meddwl am arian ac eiddo?

Gweddïwch

mai Iesu Grist fydd y trysor mwyaf gwerthfawr yn eich bywyd, a hefyd am nerth i ddefnyddio popeth sydd gennych er ei ogoniant.​