Gwneud Marc 8 – Cyfamod Newydd
9 Ebrill 2020 | Gan Emyr James
8 – Cyfamod Newydd
Marc 2:18-22
Yr oedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, “Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio. Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna fe ymprydiant y diwrnod hwnnw. “Ni fydd neb yn gwnïo clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe â’r rhwyg yn waeth. Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga’r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a’r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd.”
Geiriau Anodd
- Ymprydio: Mynd am gyfnod heb fwyta.
- Priodfab: Dyn sy’n priodi.
- Clwt o frethyn heb ei bannu: Defnydd sydd heb ei drin na chrebachu.
- Hen grwyn: Poteli lledr sydd wedi eu defnyddio’n barod.
Cwestiwn 1
Beth ydych chi’n meddwl yw gwerth mynd heb rywbeth fel bwyd er mwyn dangos eich ymroddiad i Dduw?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n meddwl y byddai’n syniad gwael i gadw gwin newydd da mewn hen grwyn?
Pa flwyddyn yw hi eleni? Ydych chi erioed wedi meddwl ei bod yn rhyfedd mai’r ffordd rydym ni’n cofnodi blynyddoedd yw cyn ac ar ôl i’r Brenin Iesu ddod i’r byd? Roedd bywyd Iesu yn dechrau cyfnod newydd yn hanes, a threfn newydd yn y ffordd mae person yn dod i berthynas â Duw.
Roedd pobl Dduw yn ymprydio er mwyn ceisio ei fendith a dangos cymaint roedden nhw’n ei roi iddo fe. Er bod y gyfraith ond yn sôn am ymprydio unwaith y flwyddyn, yng nghyfnod Iesu roedd rhai yn ychwanegu at hyn ac yn gwneud bob wythnos! Roedden nhw’n ceisio plesio Duw trwy’r hyn roedden nhw’n ei wneud, a theimlo fel eu bod nhw’n agos ato. Mae’r bobl hyn yn cwestiynu pam nad yw disgyblion Iesu yn gwneud yr un peth â nhw. Ateb Iesu yw fod dim angen iddyn nhw ymprydio, oherwydd roedden nhw’n barod ym mhresenoldeb Duw tra oedd ef gyda nhw.
Er bod y bobl hyn yn ceisio dod yn agos at Dduw trwy eu hymdrechion, roedden nhw’n dal i fod yn bell. Er mwyn cael perthynas iawn â Duw roedd angen newid rhywbeth. Mae Iesu’n dweud fod ceisio gwella’r sefyllfa yn debyg i roi darn o ddefnydd newydd ar hen ddilledyn – pan gaiff ei olchi bydd y darn newydd yn mynd yn llai, yn tynnu i ffwrdd a gwneud y rhwyg yn waeth. Neu mae fel rhoi gwin newydd mewn hen grwyn – mae’r gwin yn dal i ryddhau nwy fydd yn chwyddo’r crwyn, gan eu torri a gwastraffu’r cwbl. Beth sydd ei angen yw dilledyn cwbl newydd, a chrwyn hollol newydd i ddal y gwin. Y drefn newydd mae Iesu Grist yn ei chyflwyno sy’n llawer gwell na’r hen un, yw ein bod ni’n gallu dod at Dduw nid trwy ein hymdrechion ni ein hunain, ond trwy ffydd ynddo ef.
Cwestiwn 3
Pam y mae’n dwp i feddwl y gallwn ni fod yn iawn gyda Duw yn ein nerth ein hunain?
Cwestiwn 4
At beth mae Iesu yn cyfeirio pan mae’n dweud ei fod yn mynd i gael ei gymryd oddi wrth ei ddisgyblion?
Gweddïwch
y bydd presenoldeb a bendith Duw yn amlwg iawn yn eich bywyd chi.