Llythyrau Ioan – Dechrau Newydd
29 Rhagfyr 2019 | Gan Steffan Job

Rhannu
Mae hi’n 2020 – dechrau newydd i ni gyd!
Wn i ddim sut wyt ti’n teimlo am y flwyddyn sydd o’th flaen. Efallai dy fod yn gyffrous, efallai yn ansicr. Efallai dy fod yn edrych ymlaen yn fawr neu efallai dy fod yn ofni beth a ddaw. Y newyddion da i bob person yw bod Duw yn rheoli a’i fod yn cynnig gras a chariad i bawb yn y flwyddyn sydd yn dod. Gall y person sy’n pwyso ar Iesu wynebu’r flwyddyn newydd yn hyderus gan wybod ei fod yn saff yn llaw Duw.
Er bod ein byd ni heddiw yn wahanol i’r byd yr oedd y Cristnogion yn byw ynddo yn y ganrif gyntaf wedi i Iesu fynd i’r nefoedd, mae yna lawer sy’n debyg. Yr un bobl ydym ni, yr un teimladau ac ansicrwydd yr ydym yn eu teimlo, a’r un yw problem y byd yr ydym yn byw ynddo.
Rwy’n gobeithio yn y cynllun darllen hwn y cei di gymorth ac anogaeth wrth weld sut oedd Ioan, un o ddisgyblion Iesu, yn helpu’r Cristnogion cyntaf i fyw mewn byd oedd yn llawn ansicrwydd.
Os oes gen ti gwestiynau neu os wyt ti eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Mae hefyd modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop ein gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram – @Llwybrau.
Mae’r darlleniadau cyntaf ar gael yn y PDF isod, a bydd y gweddill yn dilyn yn fuan!