Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 2 – Dechrau’r Gwaith

4 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

2 – Dechrau’r Gwaith

 

Marc 1:9-15

Yn y dyddiau hynny daeth lesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon lorddonen gan loan. Ac yna, wrth iddo godi allan o’r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo’n agored a’r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. A daeth llais o’r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

Ac yna gyrrodd yr Ysbryd ef ymaith i’r anialwch, a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a’r angylion oedd yn gweini arno.

Wedi i loan gael ei garcharu daeth lesu i Galilea gan gyhoeddi Efengyl Duw a dweud: “Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.”

Geiriau Anodd

  • Ymhyfrydu: Cael pleser.
  • Anialwch: Ardal sych, anghyfforddus, heb lawer o ddŵr na thyfiant.
  • Satan: Arweinydd yr angylion a drodd yn erbyn Duw.
  • Angylion: Negeswyr Duw.

Cwestiwn 1

Pa bethau rhyfedd a ddigwyddodd ym medydd lesu oedd yn wahanol i fedydd pawb arall?

Cwestiwn 2

Pan ydych chi’n paratoi ar gyfer rhywbeth anodd i fel prawf neu gystadleuaeth, pa fath o bethau sy’n eich helpu?

Yn awr, gan fod loan wedi paratoi’r ffordd, mae’n amser i lesu ddechrau ar ei waith, ac mae’n dechrau yn y ffordd fwyaf rhyfeddol. Tra oedd y bobl eraill yn dod i edifarhau am eu pechodau a chael eu bedyddio, mae rhywbeth gwahanol iawn yn digwydd i lesu. Wrth iddo ddod allan o’r dŵr mae Duw yn dweud ei fod wrth ei fodd gyda lesu. Yn y geiriau hyn mae Duw yn dangos i ni rywbeth oedd heb ei wneud yn glir yn y gorffennol. Wrth i Dduw’r Ysbryd Glân ddisgyn o’r nefoedd mae llais Duw’r Tad yn canmol Duw’r Mab. Beth sy’n dechrau dod yn glir yma yw, er mai dim ond un Duw sydd, fod Duw yn bodoli fel tri pherson – Tad, Mab ac Ysbryd Glân – ac eto dim ond un Duw sydd. Mae’r syniad yma y tu hwnt i ni mewn gwirionedd oherwydd fel pobl allwn ni fyth deall Duw yn llwyr.

Ar ôl y profiad hyfryd o glywed llais ei Dad yn rhoi clod iddo, mae lesu yn cael ei anfon gan yr Ysbryd i’r anialwch. Yn y lle diflas hwnnw fe dreuliodd lesu dros fis yn cael ei demtio gan y diafol. Pam yr oedd angen i hyn ddigwydd? Yn gyntaf roedd lesu’n dangos ei fod yn gallu llwyddo i wrthod temtasiwn hyd yn oed mewn anialwch, yn wahanol i Adda y dyn cyntaf, a bechodd pan oedd mewn gardd hyfryd. Yn ail, roedd lesu’n dangos ei fod yn llwyddo lle roedd yr lsraeliaid wedi methu pan oedden nhw yn yr anialwch ar ôl gadael yr Aifft. Yn drydydd, roedd y cyfnod hwn o brofi yn paratoi lesu ar gyfer y blynyddoedd caled o waith oedd ganddo o’i flaen – gwaith a fyddai’n arwain at ei farwolaeth ar y groes.

Cwestiwn 3

Pam mae e’n gysur i ni feddwl fod lesu wedi cael ei demtio ym mhob ffordd bosib, ond eto heb bechu?

Cwestiwn 4

Ym mha ffyrdd mae Duw yn gallu defnyddio cyfnodau anodd yn ein bywyd er mwyn ein paratoi i wneud ei waith?

Gweddïwch

y bydd Duw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yn eich helpu i ddeall y Beibl, i ddibynnu ar gryfder lesu Grist ac i gredu fod pob sefyllfa er eich Iles ac yn eich paratoi i’r dyfodol.