Gwneud Marc 51 – Dewrder a Llwfrdra
1 Mehefin 2020 | Gan Emyr James
51 – Dewrder a Llwfrdra
Marc 14:53-72
Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân. Yr oedd y prif offeiriaid a’r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i’w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim. Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn, “Clywsom ni ef yn dweud, ‘Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.'” Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd yntau’n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, “Ai ti yw’r Meseia, Mab y Bendigedig?” Dywedodd Iesu, “Myfi yw, ‘ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r Gallu ac yn dyfod gyda chymylau’r nef.'” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Pa raid i ni wrth dystion bellach? Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A’u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a’i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau. Yr oedd Pedr islaw yn y cyntedd. Daeth un o forynion yr archoffeiriad, a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, “Yr oeddit tithau hefyd gyda’r Nasaread, Iesu.” Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti’n sôn.” Ac aeth allan i’r porth. Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, “Y mae hwn yn un ohonynt.” Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma’r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, “Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti.” Dechreuodd yntau regi a thyngu: “Nid wyf yn adnabod y dyn hwn yr ydych yn sôn amdano.” Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, “Cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith, fe’m gwedi i deirgwaith.” A thorrodd i wylo.
Geiriau Anodd
- Ymdwymo: Ei dwymo ei hun.
- Sanhedrin: Pwyllgor arweinwyr crefyddol yr Iddewon.
- Cernodio: Bwrw.
- Dyrnodiau: Ergydion.
Cwestiwn 1
Pryd oedd y cyfnod anoddaf yn eich bywyd chi?
Cwestiwn 2
Pam ydych chi’n meddwl y gwnaeth Pedr ddilyn Iesu?
Y cam cyntaf yn yr achos llys yn erbyn Iesu yw dod ag ef o flaen yr arweinwyr crefyddol. Maen nhw wedi bod yn edrych ymlaen at hyn ers amser hir. Roedden nhw i gyd yn chwilio am unrhyw ffordd bosibl o brofi ei fod yn haeddu marwolaeth. Dyma nhw hyd yn oed yn galw ar bobl i ddweud celwydd! Er bod y gyfraith yn glir fod dwyn camdystiolaeth yn bechod sydd i’w gosbi’n llym, maen nhw’n ceisio defnyddio hyn fel ffordd i ladd person hollol ddieuog. Yn wyneb y cyhuddiadau ffyrnig a’r twyll i gyd, dydy Iesu ddim yn dadlau. Yn ddewr mae’n cadw’n dawel, gan aros am yr hyn sydd i ddod. Pan mae’n barod, mae’n dewis ateb cwestiwn yr archoffeiriad, ac yn cydnabod y gwirionedd mai ef yw’r Brenin. Yn syth maen nhw’n penderfynu ei fod yn haeddu marwolaeth ac mae’r cam-drin yn dechrau.
Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd Pedr wedi magu ychydig o hyder ac yn dilyn er mwyn gweld beth oedd yn digwydd. Chwarae teg iddo, mae’n cerdded yr holl ffordd i mewn i gyntedd yr archoffeiriad ac yn aros yno gyda’r gweision. Ond wrth i’r noson fynd yn ei blaen, mae pethau’n mynd yn waeth ac yn waeth i Pedr wrth iddo gael ei adnabod gan ryw ferch a gorfod gwadu ei fod yn un o ddilynwyr Iesu. Mae’n boenus i ddarllen ymlaen a’i glywed yn cael ei gyhuddo eto ac yn gorfod gwadu unwaith yn rhagor. Rydych chi bron yn gorfod gweiddi, “Pedr! Cofia eiriau Iesu! Paid â gwneud!” Ond wrth i ragor o bobl ei gyhuddo mae Pedr yn gwylltio ac yn dweud nad yw e’n adnabod Iesu o gwbl. Wrth i’r ceiliog ganu mae Pedr yn sylweddoli beth mae wedi ei wneud, ond mae’n rhy hwyr.
Cwestiwn 3
Sut ydych chi’n meddwl roedd Pedr yn teimlo ar ôl hyn i gyd?
Cwestiwn 4
Pam ydych chi’n meddwl yr ymatebodd Iesu i’r cwestiynau yn y ffordd y gwnaeth?
Gweddïwch
am ddoethineb a hyder wrth i chi ateb cwestiynau gan bobl sydd yn eich gwrthwynebu.