Arfogaeth Duw: Ffydd
9 Ionawr 2020 | Gan Rhys Havard

Rhannu
Pwrpas tarian
- Roedd y darian yn amddiffyn y corff i gyd. Byddai gwneud defnydd cywir o’r darian yn stopio’r ymosodiad rhag cyrraedd y corff.
Ffydd
- Un diffiniad o ffydd yn syml yw “Credu Duw”. Felly, nid dim ond credu yn Nuw, ei fod yn bodoli ayyb, ond credu Duw. Credu’r hyn mae’n ei ddweud amdano ei hun, amdanom ni, am y byd, am Iesu, am bopeth. Ffydd yw credu beth mae Duw’n ei ddweud, credu ei fod yn gallu gwneud yr hyn mae’n dweud y gall wneud a phwyso’n llwyr arno ym mhob rhan o’n bywydau.
Beth mae’n ei olygu i ddefnyddio tarian ffydd?
- Mae’n golygu rhoi ein ffydd yn Nuw. Mae Duw wedi ei ddatguddio’i hun i ni yn y Beibl ac mae wedi ei brofi ei hun i ni droeon yn y Beibl, ‘Ni fethodd un o’r holl bethau da a addawodd yr Arglwydd i dŷ Israel; daeth y cwbl i ben’ (Joshua 21:45).
Sut mae’n help i ni yn y frwydr?
- Gall Satan wneud i’r Cristion amau pethau am Dduw. Gall wneud iddo amau bod Duw yn ei garu, neu ei fod yn gofalu amdano, neu ei fod yn gwybod beth sydd orau iddo.
- Mae tarian ffydd yn help yn y sefyllfaoedd yma trwy dy atgoffa bod dy ffydd yn Nuw, yr un sy’n dy garu gymaint nes iddo ddanfon Iesu i farw drosot ti, a’r un sy’n gwybod beth sydd orau i ti.
Sut ydyn ni’n ei wisgo?
- Gweddïo am help Duw i ymddiried yn llwyr ynddo a’i fod Ef yn gwybod beth sydd orau i ni ym mhob sefyllfa.
Rhan 3 – Arfogaeth Duw: Efengyl
Rhan 5 – Arfogaeth Duw: Iachawdwriaeth