Cynllun darllen y Salmau
22 Awst 2017

Rhannu
Pwrpas yr astudiaethau hyn yw dy helpu i ddarllen rhai o’r Salmau. Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo.
Mae’r darlleniadau wedi eu rhannu’n 35 rhan, gyda chwestiynau ar gyfer pob diwrnod. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Mae modd argraffu’r cynllun darllen i gadw yn dy Feibl, neu rho dy e-bost yn y blychau ar waelod y dudalen i dderbyn y darlleniadau dros e-bost pob bore. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw yn siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Casgliad rhyfeddol o emynau, gweddïau a barddoniaeth pobl Israel yw llyfr y Salmau. Maent yn cyflwyno pob math o brofiadau, emosiynau a theimladau gwahanol y gall y Cristion eu cael. Yn eu geiriau fe fyddwn yn gweld dagrau’r Salmydd pan mae’n mynd drwy gyfnod anodd. Byddwn hefyd yn clywed ei gri fuddugoliaethus pan mae Duw’n ateb ei weddi. Byddwn yn clywed y Salmydd yn drist yn gofyn am faddeuant ond hefyd yn llawen iawn wrth iddo ymhyfrydu yn Nuw. Mae’r Salmau yn mynd â ni ar roler-coaster ein profiadau ond yn y diwedd mae’n ein harwain i un lle – i addoli Duw ein gwaredwr a’n crëwr.