Gwneud Marc 44 – Rhagrith a Rhoi
20 Mai 2020 | Gan Emyr James
44 – Rhagrith a Rhoi
Marc 12:38-44
Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy’n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd. Dyma’r rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo’n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.” Eisteddodd i lawr gyferbyn â chist y drysorfa, ac yr oedd yn sylwi ar y modd yr oedd y dyrfa yn rhoi arian i mewn yn y gist. Yr oedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi yn helaeth. A daeth gweddw dlawd a rhoi dau ddarn bychan o bres, gwerth chwarter ceiniog. Galwodd ei ddisgyblion ato a dywedodd wrthynt, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall sy’n rhoi i’r drysorfa. Oherwydd rhoi a wnaethant hwy i gyd o’r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o’i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
Geiriau Anodd
- Rhodiannu: Cerdded o amgylch.
- Dedfryd: Penderfyniad mewn llys barn.
- Trysorfa: Man i gadw arian.
Cwestiwn 1
Beth yw’r argraff rydym ni’n ei gael o’r ysgrifenyddion?
Cwestiwn 2
Beth sy’n wahanol am y wraig weddw?
Ym Marc 12:28-34 fe glywon ni beth oedd gwir addoliad – yr hyn mae Duw eisiau gennym ni mewn gwirionedd yw ei garu ef â’n holl fywyd, a charu eraill fel ni ein hunain. Heddiw rydym yn mynd i weld dau fath o berson, a cheisio gweld pwy sy’n dod agosaf at yr hyn mae Duw yn ei ddymuno.
Yr enghraifft gyntaf yw’r ysgrifenyddion. Y ffordd mae Iesu yn eu disgrifio yw fel pobl oedd yn hoffi gwisgo dillad crand, a chael pobl yn sylwi arnynt a dangos parch iddynt lle bynnag roedden nhw’n mynd. Roedden nhw’n twyllo gweddwon i roi eu holl arian i’r deml ond yn ei gadw iddynt eu hunain. Bob tro y bydden nhw’n gweddïo, yr unig beth oedd yn eu poeni oedd fod pobl yn gweld mor hir roedden nhw wrthi! Er eu bod yn ymddangos yn bobl dduwiol, barchus, oedd yn cyflawni’r gyfraith, y tu mewn roedden nhw’n gwbl farw.
Yr ail enghraifft yw’r weddw fach ddi-nod. Dydyn ni ddim yn dysgu llawer amdani, dim ond ei bod hi’n dod i roi arian at waith Duw yn y deml. Roedd y bobl o’i chwmpas yn cyfrannu symiau mawr iawn o arian. Pan ddaw ei thro hi, dim ond ychydig bach sydd ganddi i’w roi. Ond er bod gwerth yr arian yn fach, y gwir yw ei bod hi wedi rhoi popeth oedd ganddi at wasanaeth Duw ac felly hi sy’n derbyn clod Iesu.
Beth sy’n dod yn amlwg wrth edrych ar yr hanes yw mai’r hyn mae Iesu yn ei ganmol, a’r hyn mae Duw yn ei ddymuno gennym ni, yw ein bod yn rhoi’r cyfan sydd gennym iddo ef. Mae Duw yn edrych ar y galon. Efallai eich bod yn teimlo nad oes dim byd llawer gennych i’w gynnig, fod yna ddigon o bobl eraill sy’n gallu gwasanaethu Duw yn well na chi. Ond dydy hynny ddim yn wir o gwbl – aberth y wraig oedd yn dda yng ngolwg Iesu. Mae Duw yn derbyn ac yn gallu defnyddio unrhyw beth sydd gennym i’w gynnig mewn ffydd yn enw Iesu Grist.
Cwestiwn 3
Pa ddoniau mae Duw wedi eu roi i chi? Sut gallwch chi eu defnyddio er gogoniant iddo ef?
Cwestiwn 4
Oes unrhyw rhan o’ch bywyd chi lle rydych chi’n rhagrithio?
Gweddïwch
y byddai eich bywyd i gyd yn gwbl ddiragrith ac yn cael ei fyw er clod i’r Arglwydd Iesu Grist.