Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 14 – Teyrnas Duw

16 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

14 – Teyrnas Duw

Marc 4:26-34

Ac meddai, “Fel hyn y mae teyrnas Dduw: bydd dyn yn bwrw’r had ar y ddaear  ac yna’n cysgu’r nos a chodi’r dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu mewn modd nas gŵyr ef.  Ohoni ei hun y mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth, eginyn yn gyntaf, yna tywysen, yna ŷd llawn yn y dywysen. A phan fydd y cnwd wedi aeddfedu, y mae’n bwrw iddi ar unwaith â’r cryman, gan fod y cynhaeaf wedi dod.”

Meddai eto, “Pa fodd y cyffelybwn deyrnas Dduw, neu ar ba ddameg y cyflwynwn hi? Y mae’n debyg i hedyn mwstard; pan heuir ef ar y ddaear, hwn yw’r lleiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear,  ond wedi ei hau, y mae’n tyfu ac yn mynd yn fwy na’r holl lysiau, ac yn dwyn canghennau mor fawr nes bod adar yr awyr yn gallu nythu dan ei gysgod.” Ar lawer o’r fath ddamhegion yr oedd ef yn llefaru’r gair wrthynt, yn ôl fel y gallent wrando;  heb ddameg ni fyddai’n llefaru dim wrthynt. Ond o’r neilltu byddai’n egluro popeth i’w ddisgyblion ei hun.

Geiriau Anodd

  • Egino: Dechrau tyfu.
  • Tywysen: Y rhan a’r planhigyn sy’n dwyn had.
  • Cnwd: Ffrwyth yr hadau sydd wedi eu gwasgaru.
  • Cryman: Offer sy’n cael ei ddefnyddio i dorri’r cnwd.
  • Cyffelybu: Cymharu.

Cwestiwn 1

Ydych chi erioed wedi gweld planhigyn yn tyfu?

Cwestiwn 2

Wrth edrych ar hedyn bach, ydych chi’n gallu gweld pa mar fawr fydd y planhigyn? A yw maint yr hedyn yn bwysig?

  Rydym ni wedi gweld yn barod fod Iesu yn hoffi defnyddio’r darlun o hau hadau er mwyn egluro gwirionedd i’w ddisgyblion. Yn yr adran hon gwelwn Iesu yn defnyddio dau ddarlun newydd eto.

  Mae’r darlun cyntaf yn egluro’r ffaith fod teyrnas Dduw yn tyfu mewn ffordd nad ydym yn gallu ei deall na’i rheoli – teyrnas Dduw yw hi, ac ef sy’n gyfrifol am y tyfiant. Yn debyg i had yn tyfu, mae yna broses o dyfu yn achos y deyrnas, ac mae’r broses honno’n digwydd yn raddol, dros amser. Mae hyn yn wir wrth feddwl am y ffordd y mae’r efengyl yn lledu drwy’r byd, ond hefyd wrth i Dduw ddwyn frwyth yn ein bywydau ni. Er bod gennym ni gyfrifoldeb i wneud popeth y gallwn i dyfu yn ein ffydd, mae’n gysur mawr meddwl bod Duw ei hun trwy’r Ysbryd Glân yn gweithio ynom hefyd. O’r funud rydym yn credu yn Iesu Grist, mae’r Ysbryd yn newid ein bywydau yn raddol i fod yn fwy tebyg iddo.

  Yn yr ail ddarlun mae Iesu yn egluro mwy eto am y deyrnas, drwy ddweud ei bod yn debyg i un math penodol o hedyn – yr hedyn mwstard. Mae’r hedyn hwn yn un diddorol iawn, oherwydd fel mae Iesu’n esbonio, er ei fod yn dechrau fel hedyn bach iawn, pan fydd wedi tyfu mae’n mynd yn enfawr. A dyna yr union beth rydym yn ei weld yn hanes Cristnogaeth. Mae’r hyn a ddechreuodd gyda chriw bach o bobl di-nod yn dilyn person o’r enw Iesu yn y Dwyrain Canol 2000 o flynyddoedd yn ôl, bellach wedi ymestyn drwy’r byd i gyd nes bod miliynau o bobl heddiw yn galw eu hunain yn Gristnogion. Ar ddiwedd amser, pan fydd y deyrnas wedi cyrraedd ei llawn dwf, bydd yr Arglwydd Iesu yn casglu ei bobl at ei gilydd ac yn dinistrio popeth arall.

Cwestiwn 3

Pam ydych chi’n meddwl fod y darlun o hadau yn tyfu yn un mor dda i’n helpu i ddeall y ffordd mae Duw yn gweithio?

Cwestiwn 4

Ym mha ffordd mae’n gysur mai Duw sydd yn achosi tyfiant ac nid ni?

Gweddïwch

am weld teyrnas Dduw yn parhau i dyfu a rhagor o bobl yn dod yn rhan ohoni.