Cynllun Darllen Caneuon y Nadolig
1 Rhagfyr 2018 | Gan Bethan Perry

Rhannu
Cynllun Darllen Caneuon y Nadolig
O ‘Clywch lu’r Nef’ i ‘Gŵyl y Baban’, mae’r Nadolig yn gyfnod lle mae canu yn chwarae rhan fawr. Mae’r siopau yn newid i chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd ac mae’r carolau hen a newydd i’w clywed yn ein capeli. Mae hanes geni Iesu Grist yn y Beibl hefyd yn llawn canu a moli Duw. Beth am dreulio ychydig o amser y Nadolig hwn yn myfyrio ar ‘ganeuon y Nadolig’ o efengyl Luc. Wrth edrych ar fawl Mair, Sachareias, yr angylion a’r bugeiliaid, gobeithio y gallwn ni weithredu geiriau’r garol ‘O! Deuwn ac Addolwn Grist o’r Nef’.
Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Os oes gen ti gwestiynau neu eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Mae hefyd modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop y gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram – @Llwybrau.
Dyma PDF yn cynnwys y 12 darlleniad cyntaf – bydd y gweddill yn ymddangos yn fuan! Bydd y darlleniadau hefyd yn ymddangos ar Facebook, Twitter ac Instagram yn ystod dyddiau’r wythnos.