Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Gwneud Marc 15 – Llais y Creawdwr

16 Ebrill 2020 | Gan Emyr James

15 – Llais y Creawdwr

Marc 4:35-41

A’r diwrnod hwnnw, gyda’r nos, dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i’r ochr draw.”  A gadawsant y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch fel yr oedd; yr oedd cychod eraill hefyd gydag ef.  Cododd tymestl fawr o wynt, ac yr oedd y tonnau’n ymdaflu i’r cwch, nes ei fod erbyn hyn yn llenwi. Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, “Athro, a wyt ti’n hidio dim ei bod ar ben arnom?”  Ac fe ddeffrôdd a cheryddu‘r gwynt a dweud wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.  A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn? Sut yr ydych heb ffydd o hyd?”  Daeth ofn dirfawr arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo.”

Geiriau Anodd

  • Tymestl: Storm.
  • Starn y cwch: Cefn y cwch.
  • Ceryddu: Dweud y drefn.
  • Gostegodd: Tawelodd.
  • Dirfawr: Mawr iawn.

Cwestiwn 1

Ydych chi erioed wedi gweld storm fawr ar y môr?

Cwestiwn 2

Beth ydych chi’n credu rydyn ni’n ei ddysgu yma am Iesu?

  Mae’r môr yn beryglus a phwerus dros ben. Hyd yn oed ar ddiwrnod braf ar y traeth, mae nerth y tonnau yn gallu eich taflu o gwmpas mewn ffordd frawychus. Dychmygwch sut y byddai’n teimlo i fod mewn cwch pysgota bach ynghanol storm? Mae’n amlwg ei bod yn brofiad erchyll oherwydd roedd sawl un o’r disgyblion yn bysgotwyr, ac eto roedden nhw’n poeni am eu bywydau. Yr unig un yn y cwch nad oedd yn teimlo unrhyw ofn oedd Iesu – roedd e hyd yn oed yn gallu cysgu!

  Wrth weld cymaint oedd braw y disgyblion mae Iesu yn tosturio wrthynt ac yn gwneud rhywbeth doedd neb yn ei ddisgwyl. Mae’n dechrau dweud y drefn wrth y gwynt, a dweud “Bydd ddistaw!” wrth y môr. A dyma nhw’n ufuddhau yn syth! Roedd y disgyblion yn methu credu yr hyn roedden nhw wedi ei weld. Er eu bod nhw wedi gweld ei awdurdod dros bobl, ac ysbrydion aflan ac afiechydon, roedd hyn yn rhywbeth gwahanol eto. Doedden nhw ddim yn gallu deall sut roedd ganddo awdurdod dros fyd natur, oherwydd doedden nhw ddim eto wedi deall yn iawn fod Iesu yn Frenin dros bob peth.

  Ond ddylai’r hyn a wnaeth Iesu ddim fod yn syndod i ni o gwbl mewn gwirionedd. Roedd y wyrth hon yn cadarnhau yr hyn roedd e’n ei ddweud amdano ef ei hun – ei fod yn Fab Duw. Os darllenwch Salm 107:28-29, fe welwch ddisgrifiad yno o Dduw yn gwneud yn union yr un gwaith o dawelu storm a distewi’r tonnau. Wrth gwrs byddai’n gwbl amhosibl i chi a fi wneud yr hyn a wnaeth Iesu. Ond ef a greodd y byd yn y lle cyntaf, ac felly mae ganddo awdurdod dros ei greadigaeth.

Cwestiwn 3

Sut mae’r hanesyn hwn yn ein helpu i gredu yn Iesu?

Cwestiwn 4

Pam ydych chi’n meddwl fod y disgyblion mor ofnus? Beth oedd yn eu rhwystro rhag gweld pwy oedd Iesu?

Gweddïwch

am ffydd i ddilyn Iesu dim ots pa stormydd sy’n eich wynebu, gan wybod fod ganddo reolaeth lwyr dros bob dim.