Perthynas
31 Gorffennaf 2019 | Gan Debs Job

Rhannu
Mae gwyliau’r haf yn aml yn adeg i gwrdd â phobl newydd. Felly rydym am ganolbwyntio dros y mis nesaf ar beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am berthynas – rhwng ffrindiau, o fewn teulu, gyda chariad a chyda Duw.
Er bod y Beibl wedi ei ‘sgrifennu miloedd o flynyddoedd cyn Insta a Tinder, mae’n hollol berthnasol gan mai Duw sydd wedi ein creu, ac ef sy’n gwybod beth sydd orau i ni. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
Felly, gadewch i ni ddechrau yn y dechrau gyda Genesis, a gweithio’n ffordd drwy’r Beibl gan weld beth mae Duw yn ei ddysgu.
Lawr lwythwch y PDF o’r cynllun darllen isod, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y darlleniadau yn ddyddiol!
Os oes gen ti gwestiynau neu os wyt ti eisiau trafod mwy am yr hyn rwyt wedi’i ddarllen, beth am ofyn i dy rieni neu siarad gyda rhywun yn dy eglwys? Mae hefyd modd danfon cwestiynau i Llwybrau trwy’r ddolen ar dop ein gwefan, neu dros Facebook, Twitter ac Instagram – @Llwybrau.
Mwy o ddarllen ar thema ‘perthynas’:
Tri pheth sy’n bwysig mewn perthynas