Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

3 peth sy’n bwysig mewn perthynas

25 Ionawr 2018 | Gan Cynan a Rachel Llwyd

Merch i’r Brenin Brychan Brycheiniog oedd Dwynwen. Ei thad-cu hi oedd Gwrtheyrn ap Gwidol, sef Brenin Prydain. Tywysoges oedd Dwynwen felly, yn perthyn i’r teulu brenhinol.

Nawr, mae rhai yn credu bod llawer o perks yn dod o briodi aelod o’r teulu brenhinol. Ond y gwir yw nid y pethau materol sy’n bwysig mewn perthynas.

Rydyn ni am rannu tri pheth rydyn ni wedi’i gweld yn bwysig yn ein perthynas ni.

 

1. Gonestrwydd

Mae’n hollbwysig bod yn onest gyda’ch gilydd. Mae’n bwysig rhannu eich teimladau, meddyliau, gobeithion a’ch pryderon gyda’ch gilydd. Os oes rhywbeth yn eich poeni, os oes gair neu weithred wedi’ch brifo – dwedwch wrth eich partner.

Rhannwch hefyd eiriau o gariad a diolch. Mae’n hollbwysig bod yn onest a rhannu eich rhwystredigaethau a’ch diolchiadau.

Yn yr un ffordd, ewch a’ch rhwystredigaethau a’ch diolchiadau yn onest gerbron Duw mewn gweddi.

Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen! Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig.Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. Philipiaid 4:6-7

  1. 2. Gostyngeiddrwydd

Mae’n bwysig aberthu er budd y berthynas. Golyga hyn wahanol bethau i wahanol gyplau. Rydyn ni wedi ceisio meddwl yn gyntaf am ein gilydd yn hytrach na’n hunain. Mae hyn yn golygu parchu a gwasanaethu eich gilydd.

Meddyliwch: roedd Iesu Grist yn fodlon bod yn ostyngedig i’r fath raddau nes ei fod yn fodlon marw ar y Groes. Beth ydych chi’n fodlon rhoi’r gorau iddi er mwyn rhoi eich perthynas yn gyntaf?

Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes. Philipiaid 2:8

3. Anogaeth

Mae annog eich gilydd yn holl bwysig. Annog eich gilydd yn eich gwaith ysgol, annog eich gilydd wrth geisio cyflawni amcanion gwahanol, ac wrth gwrs, annog eich gilydd yn eich ffydd.

Mae caru a dibynnu ar eich gilydd am gymorth, cysur ac anogaeth yn bwysig, ond mae pwyso ar Dduw am gymorth, cysur ac anogaeth yn bwysicach fyth. Anogwch eich gilydd i dyfu yn eich ffydd. O ddysgu am gariad Duw fe ddowch i garu eich gilydd yn well. O ddysgu am faddeuant Duw fe ddowch i faddau eich gilydd. Wrth ddysgu am haelioni Duw fe fyddwch yn hael i’ch gilydd a bydd eich perthynas yn dystiolaeth o gymeriad Duw.

Darllenwch y Beibl ar ben eich hunain, ac fel pâr. Gweddïwch ar ben eich hunain, ac fel pâr. Ymrowch i fywyd eglwys. Anogwch eich gilydd i glosio at Dduw a gadewch i’ch perthynas fod yn dystiolaeth o gariad Duw

Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael! Bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni. Hebreaid 4:16

 

Mae Cynan a Rachel Llwyd yn aelodau yn eglwys Ebeneser, Caerdydd.