Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Newyddion da Calan Gaeaf

27 Hydref 2017 | Gan Steffan Job

Mae Calan Gaeaf i’w weld yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn! Mwy o addurniadau yn y siopau, mwy o blant yn galw heibio’r tŷ am losin a mwy o bartis neu ddisgos yn cael eu trefnu. Sut mae ymateb i hyn?

Wn i ddim lle’r ydych chi’n meddwl y cychwynnodd Calan Gaeaf, i fod yn onest mae’n anodd iawn gwybod yn union beth yw cefndir yr ŵyl yr ydym yn ei weld heddiw. Mae’n debyg fod y cyfan yn gymysgedd o ddathliadau Celtaidd paganaidd wrth gofio diwedd yr haf a thraddodiadau mwy Cristnogol o gofio’r meirw a gwneud hwyl am ben ysbrydion drwg.

Beth bynnag yr hanes, mae’n amlwg fod Calan Gaeaf bellach yn cael ei gysylltu gydag ysbrydion, hwyl, gwrachod, melysion, ofn, afalau a’r marw cymysgedd od! Mae hi’n medru bod yn gymysglyd gwybod sut i ymateb i’r cyfan fel Cristion. Ar un llaw rydym yn gwybod fod peth o’r hyn sy’n digwydd i’w weld yn ddiniwed: rhannu losin, partis a gwneud celf. Ar y llaw arall rydym yn ymwybodol iawn nad yw’r diafol, gwrachod a marwolaeth yn rhywbeth y dylem ei fwynhau na’i ddathlu.

Dyma dri pheth allai fod o gymorth i ti:

  1. Goleuni rhyfeddol

Pan oedd Iesu’n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau’r byd. Bydd gan y rhai sy’n fy nilyn i olau i’w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.” (Ioan 8:12)

Mae tywyllwch i’w weld ym mhob man yn ein byd ac mae Calan Gaeaf, lle mae dathlu tywyllwch, ofn a hyd yn oed marwolaeth, yn aml yn teimlo fel amser lle mae’r cyfan yn cael ei wthio yn ein hwynebau. Gwrachod, y diafol, ysbrydion drwg – mae’n gallu bod yn reit dorcalonnus ac mae’n hawdd i ni guddio, ofni neu anwybyddu’r cyfan. Y newyddion da i ni yw bod Duw yn dod a goleuni i dywyllwch – ac mae goleuni bob amser yn fwy pwerus na’r tywyllwch.

Un o’r pethau mwyaf hyfryd ddywedodd Iesu erioed oedd ‘Fi yw goleuni’r byd’. Mae’n oleuni i’n byd gan ei fod wedi marw ar y groes gan gymryd ein cosb ac yna atgyfodi gan goncro marwolaeth. Mae Iesu wedi concro tywyllwch ein byd mewn ffordd real iawn, a rhyw ddydd fe fydd yn dod yn amlwg pan fydd yn dod yn ôl i farnu pob drwg.

Os wyt ti wedi credu yn Iesu rwyt ti bellach yn blentyn y goleuni – does dim byd i’w ofni. Rwyt ti’n iawn gyda Duw, nid marwolaeth fydd y diwedd i ti ac mi fedri di wynebu’r cyfan sydd gan y diafol i’w daflu atat yn gadarn drwy nerth Iesu.

Cwestiwn i ystyried: Pam nad oes angen i ti deimlo ofn wrth feddwl am bethau tywyll y byd yma?

  1. Perygl gwirioneddol

Ddylai neb ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda’r ocwlt na cheisio siarad â’r meirw. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, a dyna pam mae e’n gyrru’r bobl sydd yno allan o’ch blaen chi. (Deuteronomium 18:10-12)

Er bod ochr ddiniwed i ddathliadau Calan Gaeaf heddiw, mae yna ochr ddifrifol i’r cyfan. Mae’r diafol yn real ac mae ganddo ysbrydion drwg a phobl sy’n dewis ei ddilyn yn y byd heddiw. Mae’r Beibl yn rhybuddio’n glir i beidio â chwarae gyda phethau drwg fel yma gan eu bod yn ddrygionus a’n bod yn elynion iddynt (Effesiaid 6:12). Nid peth diniwed yw mynd ar ôl ysbrydion drwg, neu geisio siarad gyda’r meirw. Dylai’r Cristion gadw i ffwrdd o’r pethau yma ar bob cyfrif gan gofio fod y frwydyr yn real.

Cwestiwn i ystyried: Beth yw’r peryglon amlwg gyda Chalan Gaeaf?

  1. Bod yn ffrind anfarwol!

Felly, gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o’n cwmpas ni ym mhobman. (Effesiaid 5:15-16)

Nid spoil sports yw Cristnogion ac fe ddylem wneud ein gorau i wneud y mwyaf o bob cyfle i rannu newyddion da Iesu gydag eraill. Mae Duw wedi ein creu i fod yn gymdeithasol, i fwynhau cwmni eraill ac mae wedi ein gosod mewn lle arbennig i ddangos cariad Crist. Ni ddylem fod ag ofn Calan Gaeaf; os wyt ti’n Gristion rwyt yn blentyn y goleuni ac mae angen i ti sicrhau fod dy ffrindiau yn gwybod hynny! Rhaid i ni beidio gadael i’r holl sôn am ddrygioni a marwolaeth ein gwthio i gornel dawel. Mae Calan Gaeaf yn gyfle i rannu’r newyddion da, i fod yn oleuni ac i ddangos fod gennym rhywbeth llawer gwell i’w ddathlu a rhoi ein bryd arno (Philipiaid 4:8-9).

Cwestiwn i ystyried: Sut fedri di fod yn ffrind da dros Galan Gaeaf, yn sefyll dros y gwir ac yn rhannu neges Iesu gydag eraill?

I orffen…

Felly sut ddylai’r Cristion ymagweddu tuag at Galan Gaeaf?

Cofia gadw dy ben, paid cuddio, trystia yn Nuw a dangos i dy ffrindiau fod y goleuni yn llawer cryfach a gwell na thywyllwch y byd yma!

Tri lle i gael mwy o gymorth a gwybodaeth:
  • Darllena Effesiaid 6:12-18 er mwyn cael cymorth i weld sut mae sefyll yn gadarn.
  • Chwilia am barti goleuni fydd eglwys neu gapel yn ei drefnu (neu beth am wahodd dy ffrindiau draw i wylio ffilm neu ymlacio ar noson calan gaeaf)
  • Gwylia’r fideo yma (ar Youtube)