Mynd i’r Coleg?
11 Medi 2017 | Gan Jamie Hurd
Tybed sut wyt ti’n teimlo ynglŷn â dechrau yn y brifysgol? Efallai dy fod yn llawn cynnwrf wrth feddwl am yr antur a’r rhyddid sy’n rhan o fywyd myfyriwr. Efallai bod gwir ofn arnat wrth feddwl am adael y dref lle’r wyt ti wedi tyfu fyny, a gadael ffrindiau a phopeth cyfarwydd a mynd i le newydd, dieithr.
Pan fyddi’n cyrraedd y brifysgol bydd nifer o gyfleoedd a phrofiadau newydd yn dy ddisgwyl. Mae’n debyg i fod yn blentyn mewn siop losin, rydych chi eisiau trio popeth ond heb fod yn siŵr lle i ddechrau. Rhaid rhoi posteri dros dy ystafell, darganfod lle mae’r darlithoedd yn cael eu cynnal a ble mae’r tŷ bwyta take away agosaf. Ar ben hynny rhaid canfod sut mae gwario dy fenthyciad myfyriwr a sut yn y byd mae golchi dillad heb riant. Ond sut mae bod yn Gristion ynghanol hyn i gyd?

Rhannu
Mae bod yn Gristion yn golygu byw i Iesu ym mhob dim a wnawn. Felly wrth astudio, cymdeithasu gyda ffrindiau neu ymuno â’r tîm Ultimate Frisbee, gelli di wneud popeth mewn ffordd sy’n plesio Duw.
Mae’n bwysig byw bywyd myfyriwr ar seiliau da. Dyma rhai awgrymiadau fydd yn gymorth wrth gychwyn y bywyd newydd hwn gobeithio:
1. Ffurfia gysylltiad ag eglwys
Mae hyn yn bwysig a bydd yn sicr o’th galonogi. Mae cyrraedd rhywle newydd yn gallu bod yn llethol braidd, yn arbennig os nad wyt ti’n adnabod neb. Felly ymrwyma i eglwys leol. Roeddwn i wrth fy modd pan oeddwn yn astudio yn Abertawe oherwydd roedd teuluoedd yn yr eglwys yn fy mwydo bob dydd Sul. Rwy’n dal i gofio’r gacen gaws siocled gwyn. Ond paid â manteisio ar eglwys yn unig – ymrodda iddi. Rwy’n awgrymu dy fod yn setlo mewn eglwys o fewn y pedair wythnos gyntaf – paid â chael dy demtio i neidio o un eglwys i’r llall am dymor cyfan.
2. Chwilia am yr Undeb Cristnogol
Mae’n bosibl y byddant yn helpu myfyrwyr i symud i mewn neu’n rhedeg rhyw weithgaredd gwallgof yn ystod wythnos y glas. Beth bynnag maen nhw’n ei wneud dere o hyd iddyn nhw a gwna’n siŵr dy fod di’n cymryd rhan. Mae aelodau’r Undeb Gristnogol yn gallu rhoi llawer o gefnogaeth ac anogaeth wrth i ti fyw bywyd myfyriwr. Mae’r myfyrwyr yno’n gwybod sut beth yw byw mewn neuadd, wynebu temtasiynau ac ymdopi â’r rhyddid sy’n dod yn sgil bod yn fyfyriwr.
3. Byw yn wahanol
Pan wnes i ddechrau yn y coleg roeddwn i’n poeni sut y byddwn i’n dangos i’r rhai oedd yn byw gyda fi fy mod yn Gristion. Wnes i ffeindio mai’r peth mwyaf amlwg oedd y ffaith fy mod i’n byw yn wahanol. Paid â meddwl y bydd cael cwpwl o beints gyda dy ffrindiau newydd yn rhoi cyfle am sgyrsiau fydd yn para. Bydd y rhai o dy gwmpas yn gweld pa mor fawr a llawn cariad a pwerus yw Duw wrth i ti fyw a dibynnu arno.
4. Paid â threulio dy amser i gyd gyda dy ffrindiau Cristnogol newydd
Mwynha’r bobl rwyt ti’n byw ac yn astudio gyda nhw. Treulia amser gyda nhw a cheisia rannu’r newyddion gwych am Iesu â nhw. Mi fyddi’n gweld bod pobl yn agored iawn i bethau newydd tra maent yn y brifysgol… ac mae hynny’n cynnwys yr hyn rwyt ti’n ei gredu.
5. Neilltua amser i ddarllen y Beibl ac i weddïo
Byddi’n tyfu fel Cristion pan fyddi’n gosod dy feddwl a dy galon ar Dduw. Paid â gwneud hyn yn fwrn – dwyt ti ddim yn ei wneud er mwyn i Dduw wenu arnat ti. Ond dyma sut y byddi’n dod i nabod dy Waredwr, dy gyfaill a dy Frenin yn well.
6. Cofia am Ras Duw
Efallai y byddi’n gwneud llanast o bethau. Ond pan fydd hynny’n digwydd cofia bod Iesu wedi marw trosot pan oeddet yn elyn iddo. Os wyt ti’n Gristion mae ef wedi dy garu’n barod. Fydd hynny ddim yn newid. Felly paid â gadael i bechod dy gaethiwo. Cadwa draw oddi wrth bechod a themtasiwn gan gofio bod gras yn ddigonol.
Roeddwn i wrth fy modd yn cael bod yn fyfyriwr. Wnes i wir fwynhau ymroi i’r eglwys ac i’r Undeb Cristnogol. Roedd yn help i mi fod yn fwy hyderus yn fy ffydd ac i rannu hynny gyda’r rhai oedd yn dilyn yr un cwrs â fi ac yn byw gyda fi. Felly gwna’n siŵr dy fod yn rhan o bethau. Mae bywyd myfyriwr yn antur fawr ac mae gen ti’r cyfle i wneud hynny er mwyn Iesu. Beth all fod yn well na hyn?