Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Help! Ydw i yn Gristion go iawn?

26 Gorffennaf 2017 | Gan Martin Williams

Sut alla i fod yn siŵr fy mod i’n Gristion? Ydy hi’n bosib cael sicrwydd a gwybod cant y cant yn fy nghalon bod fy mhechodau wedi’u maddau, bod Iesu Grist wedi fy nerbyn, fy mod i yn blentyn i Dduw, a phan fyddai’n marw, bydd Iesu yn fy nerbyn i’r nef?

Mae’n gwestiwn perthnasol oherwydd mae llawer o wir Gristnogion yn byw heb sicrwydd. Maen nhw’n credu yng Nghrist, yn ymddiried ynddo Ef yn unig fel eu Gwaredwr ac yn ceisio byw i blesio’r Arglwydd. Serch hynny, maen nhw’n llawn o ofnau ac amheuon, yn ansicr bod Crist wedi’u derbyn, a does ganddynt ddim tangnefedd na llawenydd ysbrydol. Gobeithio, felly, y bydd yr erthygl yma’n gymorth i ti wrth i ni geisio meddwl ychydig am ‘sicrwydd’.

Ydy’r Beibl yn dysgu bod hi’n bosibl cael sicrwydd ein bod wedi ein hachub ac felly yn Gristnogion?

Ydy! Mae’r Beibl yn dweud yn glir bod sicrwydd iachawdwriaeth yn bosibl; yn wir mae’n dweud mwy na hynny, mae Duw am i bob Cristion brofi’r sicrwydd hwn! Dyna bwrpas llythyr cyntaf Ioan:

Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy’n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol. 1 Ioan 5:13

Dymuniad Duw yw i bob Cristion geisio’r sicrwydd hwn.

Mae Pedr yn dweud:

Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi eich galw chi a’ch dewis chi. 2 Pedr 1:10

Mae’r Beibl hefyd yn rhoi esiamplau o Gristnogion oedd yn meddu ar sicrwydd ysbrydol – pobl fel:

Job

Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Ac er, ar ôl fy nghroen, i bryfed ddifetha’r corff hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd. Job 19:25

Dafydd

Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd, a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd. Salm 23:6

Paul

Mae’r amser yn dod pan fydd y babell ddaearol dyn ni’n byw ynddi (sef ein corff) yn cael ei thynnu i lawr. Ond dyn ni’n gwybod fod gan Dduw adeilad ar ein cyfer ni – cartref parhaol yn y nefoedd wedi ei adeiladu ganddo fe’i hun. 2 Corinthiaid 5:1-2

Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi ei dywallt ar yr allor fel diod-offrwm. Mae’r amser i mi adael y byd yma wedi dod. Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i’r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. Bellach mae’r wobr wedi ei chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl. 2 Timotheus 4:6-8

Felly, mae’r Beibl yn dangos yn glir bod sicrwydd yn bosibl i’r Cristion.

Sut alla i ddod i’r sicrwydd yma?

I ateb y cwestiwn yma rhaid troi at y Beibl eto, sy’n dangos i ni sut i wybod ein bod ni’n wir Gristnogion.

1. Edrycha am effeithiau’r Ysbryd

Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae’n dod yn greadur newydd. Mae’r Beibl yn dweud bod pob Cristion wedi’i ail eni o’r Ysbryd – mae’r Ysbryd Glân yn gweithio yn y Cristion i’w wneud yn berson gwahanol. Felly, dylai hynny ddangos ei hun ynom ni, os ydym yn Gristion. Dylai eraill, a ni ein hunain weld arwyddion y bywyd newydd yng Nghrist. Pa fath o newidiadau dylem ni’u gweld? Mae Ioan yn ei lythyr cyntaf yn nodi tri arwydd fydd yn dangos bod rhywun wedi’i ail eni:

a. Mae’r Cristion yn CREDU.

Mae pawb sy’n credu mai Iesu ydy’r Meseia wedi cael eu geni’n blant i Dduw, ac mae pawb sy’n caru’r Tad yn caru ei blentyn hefyd. 1 Ioan 5:1

Mae’r Cristion wedi edifarhau a dod i gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, Mab Duw, fel ei Waredwr personol. Mae’n ymddiried yng Nghrist ac yn ei garu. Mae’r Cristion yn credu’r Beibl, yn credu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Dduw’r Tad, am Iesu, am ei hunan, ac am iachawdwriaeth. Mae ganddo ffydd bersonol yn yr Arglwydd Iesu Grist.

b. Mae’r Cristion yn CADW gorchmynion Duw.

Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n ei nabod e ac yn perthyn iddo – trwy fod yn ufudd iddo. Mae’r bobl hynny sy’n dweud “Dw i’n ei nabod e” ond ddim yn gwneud beth mae e’n ei ddweud yn dweud celwydd, a dyn nhw ddim yn ffyddlon i’r gwir. Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw’n ddweud, mae’n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n perthyn iddo: rhaid i bwy bynnag sy’n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu’n byw. 1 Ioan 2:3-6

Mae’r Cristion eisiau byw i blesio Duw ac yn ceisio byw yn ufudd Iddo. Mae’n gweld bod gorchmynion Duw’n sanctaidd, yn gywir ac yn dda, mae ganddo ddymuniad yn ei galon i gadw gorchmynion Duw ac mae’n ceisio, trwy ras Duw, i fyw mewn ufudd-dod Iddo.

c. Mae’r Cristion yn CARU.

Dyn ni’n caru’n gilydd, ac felly’n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw’n ysbrydol i fod yn fyw’n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw’n ysbrydol. 1 Ioan 3:14

Mae’r Cristion wedi dod yn rhan o deulu Duw. Mae’n perthyn i deulu newydd. Mae ganddo ddymuniad yn ei galon i fod gyda Christnogion, mae’n teimlo agosatrwydd tuag at Gristnogion ac mae’n ceisio, trwy ras Duw, i garu Cristnogion. Mae’n gwbl wahanol i bobl eraill sy’n caru’r byd a’i bethau (I Ioan 2:15).
Pwrpas Ioan felly yw dangos beth yw arwyddion y bywyd newydd yng Nghrist. Mae Ioan am i ni edrych ar ein bywydau ni i weld a ydy’r arwyddion hyn yn bresennol ynom. Mae Ioan am i ni ofyn cwestiynau i’n hunain. Ydw i wedi edifarhau a chredu yng Nghrist? Ydw i’n caru’r Arglwydd Iesu? A oes gennyf ddymuniad i fyw yn ufudd i orchmynion Duw? Ydw i’n ceisio bod yn ufudd Iddo? Ac ydw i’n caru fy nghyd Gristnogion? Ydi hi’n well gen i fod yng nghwmni Gristnogion na bod yng nghwmni rhai sy ddim yn credu?
Os ydym ni yn gweld bod y tri arwydd yma – credu, cadw gorchmynion Duw a chariad yn bresennol ynom ni – fe allwn fod yn sicr bod Duw’n gweithio yn ein bywydau a bod gennym ni fywyd tragwyddol.

2. Mae’r Ysbryd Glân yn dweud wrthym ni.

Mae pawb sydd a’u bywydau’n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw. Dydy’r Ysbryd Glân dyn ni wedi ei dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae’n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno’n llawen, “Abba! Dad!” Ydy, mae’r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni’n blant i Dduw
– Rhufeiniaid 8:14-16.

Mae Paul yn dweud bod yr Ysbryd Glân ei Hun yn rhoi sicrwydd personol i ni ein bod ni’n blant i Dduw. Sut mae’r Ysbryd yn gwneud hynny? Wrth i ni feddwl am yr arwyddion sydd yn 1 Ioan a holi ein hunain amdanynt, bydd yr Ysbryd Glân efallai’n ein sicrhau ni’n bersonol – yn tystiolaethu i’n calonnau ein bod ni wedi dod i adnabod yr Arglwydd Iesu. Gall yr Ysbryd hefyd weithio mewn ffordd ddirgel yn ein calonnau i roi heddwch a sicrwydd i ni, a gwneud i ni wybod ein bod ni wir yn Gristnogion. Mae’n gallu llenwi ein calonnau â sicrwydd ein bod yn perthyn i’r Arglwydd Iesu. Mae’n bwysig nodi bod yr Ysbryd yn gweithio mewn ffordd wahanol ym mhob Cristion ond rhan o’i waith yw dangos i ni ein bod ni’n blant i Dduw. Gweddïwch felly, a gofynnwch i’r Arglwydd am gymorth yr Ysbryd Glân i ddangos i chi eich bod yn Gristion.

3. Edrych ar Iesu Grist a’i addewidion i ni.

Rhaid i ti orffwys ar addewidion Duw. Mae Duw wedi rhoi addewidion gwerthfawr i ni yn y Beibl. Dyma ei air sicr Ef, gair gallwn ni ymddiried ynddo. Y ffordd olaf i ddod i sicrwydd yw’r ffordd orau – i droi at y Beibl, darllen a gorffwys ar addewidion Duw.
Nid yw Duw’n dweud celwydd felly gallwn ymddiried ym mhob addewid. Dyma rai ohonynt:

  • Ydy, mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Ioan 3:16
  • Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy’n credu yn y Mab. Ioan 3:36
  • Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy’n gwrando ar beth dw i’n ei ddweud, ac yn credu yn Nuw wnaeth fy anfon i. Dyn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw. Ioan 5:24
  • Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i’n eu nabod nhw. Dw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i. Fy Nhad sydd wedi eu rhoi nhw i mi, ac mae e’n fwy na phawb a phopeth yn y bydysawd. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad. Ioan 10:27-29

A dyma’r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae’r bywyd hwn i’w gael yn ei Fab. Felly os ydy’r Mab gan rywun, mae’r bywyd ganddo. 1 Ioan 5:11-12

Darllenwch addewidion Duw, myfyriwch arnyn nhw, ail-adroddwch nhw i’ch hunan, argraffwch nhw ar bapur a’u sticio ar wal eich ’stafell wely, dysgwch nhw. Uwchlaw popeth, credwch ynddyn nhw a gorffwyswch arnyn nhw!

A chofiwch beth ddywedodd Paul:

Dw i’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu! Rhufeiniaid 8:38-39