5 Top Tip ar gyfer Nadolig Gwyrddach
3 Rhagfyr 2019 | Gan Mari Elin

Rhannu
Mae’r Nadolig yn dod, ond dwi’n siwr dy fod yn cytuno na ddylai hynny fod yn esgus i anghofio am yr amgylchedd a’n cyfrifoldeb i ofalu am yr hyn y mae Duw wedi ei roi i ni.
Yma mae Mari Elin, y blogiwr ac awdur yn rhannu pump ‘top tip’ i fwynhau’r Nadolig heb roi straen ar y blaned.
Beth fyddai dy 5 ‘top tip’ ar gyfer Nadolig gwyrddach?
- 1. Rhoi anrhegion gwyrddach, e.e. cyfrannu i elusen, rhoi profiadau neu wneud rhywbeth â llaw
- 2. Lapio anrhegion mewn ffordd gynaliadwy – ailddefnyddio papur, defnyddio papur wedi’i ailgylchu neu ddefnyddio techneg Japaneaidd furoshiki
- 3. Creu eich cardiau a’ch addurniadau eich hun, ac osgoi’r plastig a’r glitter nad yw’n ailgylchadwy
- 4. Cynllunio’r cinio ’Dolig yn ofalus i leihau gwastraff
- 5. Hepgor y cracyrs!
Darllen mwy o hanes Mari yma. Beth am rannu dy syniadau am Nadolig Gwyrddach gyda ni ar Facebook, Instagram neu Twitter?