Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Sut mae bod yn ffrind da

26 Gorffennaf 2017 | Gan Sioned Nuss

Mae’n siŵr pe bai ti’n mynd i Fangor, Aberystwyth neu Gaerdydd i holi pobl ar y stryd beth sy’n gwneud ffrind da y byddet yn cael llwyth o atebion gwahanol. Byddai’n ddiddorol iawn gweld y rhestr. Un peth dwi’n siŵr fyddai’n codi yw bod gan ffrind da gannoedd o ffrindiau ar Facebook (er ei bod hi’n anodd iawn deall sut gall rhywun fod yn ffrind da i 846 o bobl!)

Os fyddai rhywun yn gofyn iti beth sy’n gwneud ffrind da, beth fyddai dy ateb?

Meddylia am y ffrindiau sydd gen ti. Oes gen ti ffrind arbennig? Pam fod y person hwnnw’n ffrind arbennig i ti?

Pe bai rhywun yn dod atat gan ddweud ei fod eisiau bod yn ffrind gwell, pa gyngor fyddet ti’n yn ei roi i’r person hwnnw?

Wyt ti’n ffrind da?

Mae yna lawer o esiamplau o ffrindiau da i’w cael yn y Beibl. Beth am edrych ar rai ohonynt a gweld pa bethau y gallwn eu dysgu ganddynt.

Dafydd a Jonathan

Wyt ti’n cofio hanes y ddau ffrind yma yn llyfr cyntaf Samuel? Byddai’n werth i ti ddarllen yr hanes os gei di gyfle rhywbryd. Roedd y ddau yn ffrindiau gorau.

Roedd tad Jonathan, sef Saul, yn frenin ar Israel. Ond doedd Saul ddim yn hoffi Dafydd ac fe geisiodd ei ladd. Gwelwn sut wnaeth Saul gynllwynio i ladd Dafydd ond llwyddodd Jonathan i arbed bywyd Dafydd. Roedd Jonathan yn ffyddlon iawn i Dafydd, ei ffrind gorau, er ei fod wedi costio yn ddrud iddo.

Beth oedd yn gwneud Jonathan yn ffrind mor arbennig?

Mae’r hanes yn dysgu dau beth pwysig i ni. Yn gyntaf roedd Dafydd a Jonathan yn deyrngar i Dduw. Roedden nhw’n rhoi Duw yn gyntaf ac roedden nhw’n ceisio ei ddilyn. Golyga hyn fod y ddau’n ceisio gwneud beth oedd yn iawn bob tro. Mae hyn yn bwysig i ni ei gofio – mae ffrind da yn ceisio gwneud yr hyn sy’n iawn yn llygaid Duw.

Yn ail, ac oherwydd bod Dafydd a Jonathan yn caru Duw, roedden nhw’n deyrngar i’w gilydd.
Roedd eu cyfeillgarwch wedi ei selio ar eu perthynas nhw â Duw. Oherwydd hyn, roedd y ddau yn glynu wrth ei gilydd pa bynnag sefyllfa oedd yn dod i’w rhan. Mae teyrngarwch yn bwysig iawn i ffrindiau. Mae ffrind da yn glynu wrth ei gyfaill drwy gyfnodau hawdd ac anodd – mae ffrind da yn rhywun y medri ddibynnu arno.

Iesu’r ffrind gorau

Er bod stori cyfeillgarwch Dafydd a Jonathan yn un arbennig, cawn ddarllen hefyd am un arall sydd eisiau bod yn ffrind da i bob un ohonom, sef Iesu Grist. Dyma newyddion da! Os wyt am ddysgu sut i fod yn ffrind da, dyma’r enghraifft orau. Beth sydd yn gwneud Iesu yn ffrind mor arbennig felly? Mae Ioan 15:13 yn crynhoi’r cyfan:

Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.

A dyna wnaeth Iesu drosom ni. Weithiau mae hi’n anodd bod yn ffrind da. Rydym yn gallu siomi pobl, eu brifo nhw neu fod yn gas wrthyn nhw. Ond yn wahanol i ni, mae Iesu yn un fydd byth yn ein siomi, ein brifo na bod yn gas wrthym ni. Mae bod yn ffrind da yn aml yn costio – ac fe wnaeth Iesu dalu’r pris eithaf i’n hachub. Bu farw ar y groes er mwyn cymryd y gosb yr oeddem ni’n ei haeddu. Mae’n gysur gwybod fod Iesu am fod yn ffrind i ni a’i fod wedi gwneud gymaint drosom. Dyma hefyd esiampl i ni ei ddilyn.

Beth arall mae’r Beibl yn ei ddysgu am Iesu?

  • Y peth mwyaf ffantastig yw bod Iesu eisiau bod yn ffrind i ni – pwy bynnag wyt ti, mae Iesu yn dy dderbyn!
  • Fydd Iesu byth yn ein gadael ni
  • Bydd Iesu bob amser yna i ni
  • Bydd Iesu bob amser yn gwrando arnom ni
  • Mae Iesu’n gwybod beth sydd orau i ni
  • Mae Iesu’n gallu ein cysuro pan rydym ni’n drist neu wedi cael ein brifo
  • Dyw Iesu ddim yn poeni am sut rydym yn edrych neu a oes gennym y dillad/technoleg diweddaraf

Dyma ffrind sydd yn werth ei gael!

Sut medra i ddilyn esiampl Iesu a bod yn ffrind da i rywun yn fy mywyd bob dydd?

  • Bydd yn ffrind i bawb! Oes yna rywun yn dy ysgol/capel/tref/pentref y medri gynnig bod yn ffrind iddyn nhw? Efallai eu bod yn unig a’u bod angen ffrind. Beth am osod sialens i ti dy hun yn ystod yr wythnosau nesaf a cheisio bod yn ffrind da i rywun sydd angen dy gwmni? Mae yna bobl o dy gwmpas sydd eisiau bod yn ffrindiau â thi. Gofynna i Dduw ddangos iti pwy yw’r bobl yma a gofyn am ei help Ef i fod yn ffrind da iddynt. Dilyna esiampl Iesu.
  • Mae bod yn ffrind da yn costio! Oes yna bethau ymarferol y medri di eu gwneud er mwyn gallu bod yn ffrind gwell, er enghraifft helpu gyda gwaith cartref, bod yn gwmni iddyn nhw wrth gerdded i’r ysgol, cynnig treulio amser gyda nhw ar y penwythnos, bod yn fodlon gwrando os ydyn nhw eisiau siarad, sefyll fyny drostyn nhw os oes rhywun yn gas wrthyn nhw. Mae bod yn ffrind da yn golygu rhoi (nid dim ond derbyn) a meddwl beth sydd orau i’r person arall, hyd yn oed os bydd hynny’n costio i ti. Dilyna esiampl Iesu.
  • Bydd yn ffrind da yn hytrach na’n ffrind arwynebol. Mae Duw yn aml yn rhoi pobl yn ein bywyd sydd yn ffrindiau agos (fel Jonathan a Dafydd) – rho amser i feithrin y berthynas. Yn debyg i facebook mae’n hawdd ‘casglu’ ffrindiau er mwyn edrych yn boblogaidd. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi amser i’n ffrindiau ac yn dod i’w hadnabod yn iawn. Dilyna esiampl Iesu!