5 Top Tip i Ddilyn dy freuddwyd!
4 Rhagfyr 2017 | Gan Luned Gwawr Evans
Oes gyda ti freuddwyd fawr? Mae gan gymaint ohonom freuddwydion… bod ar y teledu, cael gyrfa fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol, priodi… ond yw hi’n iawn i Gristion ddilyn ei freuddwyd neu a’i peth ‘bydol’ yw uchelgais a gweithio tuag at fywyd arbennig?
Dyma 5 Top Tip i dy helpu wrth i ti meddwl am ddilyn dy freuddwyd. Beth am ddarllen ein cyfweliad gyda Luned Evans sy’n esbonio sut mae’r pwyntiau hyn wedi gweithio allan yn ei bywyd hi?
1. Gweddi a darllen y Beibl
Mae gweddi yn hanfodol er mwyn rhannu a thrafod gyda Duw beth yw dy ddymuniadau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn fodd i rannu dy bryderon, ac er fod Duw’n gwybod beth sydd ar dy galon mae e eisiau perthynas gyda ti, fel Tad ac fel Arglwydd.
Ac yr wyf fi’n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Luc 11:9
Mae ei air yn rhoi arweiniad clir i ni hefyd – mae Duw yn siarad drwy ei air!
Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir pob un sy’n perthyn i Dduw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da. 2 Timotheus 3:16-17
2. Trafod
Mae Duw wedi rhoi rhwydwaith o bobl o’th amgylch di: teulu, ffrindiau, arweinwyr yn y capel ac athrawon sydd â phrofiadau a chyngor i dy helpu. Bydd eu cyngor yn gymorth wrth geisio dilyn dy freuddwyd, gan dy helpu ar hyd y ffordd.
Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg, ond gwrendy’r doeth ar gyngor. Diarhebion 12:15
3. Amseru
Er ein bod yn aml yn meddwl ein bod yn gwybod beth yr ydym ei eisiau a beth sydd orrau ar ein cyfer, mae amseriad Duw bob tro yn berffaith. Os nad yw’r ateb i dy weddi’n dod yn syth yna mae’n bosib mai nid nawr yw’r amser iawn. Mae Duw yn gorchymyn i bawb fod yn amyneddgar ac yn ffyddlon wrth aros am ei arweiniad ef.
Ond dywedais wrthyf fy hun, “Bydd Duw yn barnu’r cyfiawn a’r drygionus, oherwydd y mae wedi trefnu amser i bob gorchwyl a gwaith.” Pregethwr 3:17
4. Cydbwysedd
Mae cael nod a bod yn uchelgeisiol yn beth iach, ond y peryg ydy byddai’n troi’n obsesiwn ac yn gallu cymryd dros eich bywyd. Mae angen bod yn synhwyrol gan gofio cymryd y pethau pwysig mewn i ystyriaeth a gofyn i Dduw am arweiniad o hyd. Fel Cristnogion rydym am roi Duw yn gyntaf – ac yna fe fydd Duw yn rhoi pob dim arall i ni.
Ond ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder ef, a rhoir y pethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi. Mathew 6:33
5. Ymddiried yn Nuw
Mae’r Arglwydd wedi rhoi rhyddid i ni wneud penderfyniadau dros ein hunan, ac mae am i ni fwynhau’r cyfleoedd mae’n rhoi i ni. Weithiau mae’n hawdd ceisio rheoli ein bywyd ein hun (a sut i wireddu’r freuddwyd), ond dylwn ni ildio popeth i Dduw, gan ein bod yn gwybod fod ei gynllun ar ein cyfer yn well na beth allwn ni erioed ddychmygu.
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Rhufeiniaid 8:28

Rhannu