Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Dilyn breuddwydion

4 Rhagfyr 2017 | Gan Luned Gwawr Evans

Oes gyda ti freuddwyd fawr? Mae gan gymaint ohonom freuddwydion… bod ar y teledu, cael gyrfa fel chwaraewr pel-droed proffesiynol, priodi… ond yw hi’n iawn i Gristion ddilyn ei freuddwyd neu a’i peth ‘bydol’ yw uchelgais a gweithio tuag at fywyd arbennig?

Efallai y bydd hanes Luned sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio ym myd drama yn help…

A’i gweithio yn y byd drama a dylunio oedd dy freuddwyd ers yn ifanc?

Yn ystod ysgol ac yn sicr erbyn chweched dosbarth roedd pawb arall fel petai nhw yn gwybod beth ‘oedden nhw eisiau’i wneud, ond roeddwn i mewn penbleth llwyr yn ceisio llenwi ffurflenni UCAS i fynd i golegau i astudio cyrsiau nad oedd gen i wir ddiddordeb mewn eu hastudio. Roedd fy rhieni yn gefnogol iawn ac eisiau i mi wneud y ddewis i astudio y pynciau roeddwn i’n eu mwynhau. Yn y diwedd, yn bennaf oherwydd fy mod wedi cael sawl blwyddyn galed cyn fy lefelau A, dyma fi’n penderfynu cael blwyddyn allan ar ôl gorffen ysgol.

Gan nad oedd gen i ffocws penodol roeddwn yn gobeithio y byddai’r amser bant yn rhoi mwy o ddirnadaeth i mi gael gwneud penderfyniad pellach o ran gyrfa. Fe ddechreuais weddïo gan geisio rhyw fath o arweiniad gan Dduw a dros y misoedd oedd yn dilyn, yn araf bach dechreuodd Duw ddatgelu ei gynlluniau ar gyfer fy mywyd.

Iago 1:5

Rhannu

Gofynnwyd i mi os bydden i’n hoffi mynd i wneud profiad gwaith gyda dylunydd setiau a gwisgoedd ar gyfer sioe gan gwmni Everyman Theatre yng Nghaerdydd am gwpwl o ddyddiau. Mwynheais i’r profiad gymaint, roeddwn i’n hollol hooked!

Felly dyma’r freuddwyd yn datblygu. Oeddet ti yn teimlo tensiwn rhwng y dyfodol a’r hyn oedd Duw am i ti wneud?

Yn ystod y profiad gwaith, cymerais y cyfle i ofyn llawer o gwestiynau priodol fel fy mod yn deall sut oedd y dylunydd wedi cyrraedd y swydd a beth oedd hyn yn ei olygu. Yna fe wnes i ddechrau ymchwilio i gyrsiau ‘Cynllunio ar gyfer Theatr’. Fe es i ddiwrnod agored yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd gan wrando ar bennaeth y cwrs a ddywedodd: ‘os ydych chi eisiau astudio pwnc sy’n cyfuno Celf a Drama, dyma’r cwrs perffaith i chi!’

Roeddwn yn teimlo fod Duw wedi ateb fy gweddi yn y fan a’r lle – dyma oeddwn i eisiau ei wneud! Dros y ddwy flynedd yn dilyn fe wnes i ddysgu bod Duw yn hollol ffyddlon ac yn hollalluog, a doedd dim ffordd i mi wneud i’r freuddwyd ddod yn realiti heb fod Duw yn llwyddo’r cyfan.

Ar ôl blwyddyn anhygoel ar gwrs sylfaen Celf, derbyniais gynigion gan bum prifysgol wahanol. Roeddwn yn ansicr pa goleg i fynd iddo – yn chwilio am bob math o resymau o fynd i’r coleg yma neu’r coleg arall. Yn y diwedd cefais dawelwch fod Duw yn danfon fi i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD, hyffordda fi yn dy lwybrau. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi, oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy’r dydd. Salm 25:4-5

Gan wybod felly taw Duw oedd wedi danfon ti i’r Coleg a chynllunio i ti dilyn dy freuddwyd, a oedd hi’n gyfnod hapus?

Roeddwn i wrth fy modd ar y cwrs gan wirioneddol edrych ‘mlaen i godi yn y bore, gweithio ar brosiectau amrywiol a dysgu sgiliau newydd. Er hyn, roedd y cwrs yn waith caled, ac yn anodd ar adegau. Roeddwn i’n cael fy mhrofi yn ysbrydol drwy’r amser.

Ar ôl sbel, des i weld a deall mae’r cwrs oedd bywyd llawer o’r myfyrwyr. Roedd rhai i weld yn rhoi pob dim er mwyn cyrraedd y nod a doedd methiant ddim yn opsiwn. Ond dyma Duw yn dangos i mi fy mod i angen cael persbectif gwahanol. Fel Cristion nid fy llwyddiant ar y cwrs oedd yn rhoi fy hunaniaeth i mi, dyna pam y rhois amser i fynd i’r capel a bod yn llywydd yr Undeb Gristnogol. Roedd gennyf ffrindiau tu allan i’r bubble o fyd y coleg. Nid ar fod yn enwog oedd fy mrig – Crist yn unig oedd #1 yn fy mywyd i. Sylwais na fyddai’r freuddwyd o fod yn ddylunydd perfformio proffesiynol byth yn medru cymharu gyda’r hyn mae Crist yn ei gynnig, sef bywyd tragwyddol o lawenydd a bodlonrwydd.

Yr ydych yn ei garu ef, er na welsoch mohono; ac am eich bod yn awr yn credu ynddo heb ei weld, yr ydych yn gorfoleddu â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus wrth ichwi fedi ffrwyth eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 1 Pedr 1:8-9

Sut felly oeddet ti’n cadw cydbwysedd rhwng dilyn dy uchelgais a byw efo Iesu yn #1 yn dy fywyd?

Weithiau bydden i’n cwestiynu a’i dyma oedd cynllun Duw ar fy nghyfer i. Roeddwn weithiau yn ystyried y dyfodol ac yn meddwl ai gyrfa yn y diwydiant perfformio oedd y llwybr oedd Duw am i mi ddilyn neu dim ond cyfle dros dro i fod yn dystiolaeth i fy nghyfoedion a ffrindiau o fy nghwmpas i oedd e. Er mod i’n gweithio’n galed, roeddwn i’n ceisio gwneud popeth er clod i Dduw – wedi’r cyfan, dim ond trwyddo fe gefais i’r fraint yn y lle cyntaf o fod ar y cwrs. Roedd yn gysur gwybod y byddai Duw yn fy arwain ar hyd llwybr oedd er mwyn fy naioni, hyd yn oed os byddai’n golygu tynnu fi ffwrdd o’r byd dylunio theatr.

Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau’n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna’r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg. Diarhebion 3:5-7

Ond mae Duw wedi dy arwain i ddilyn dy freuddwyd?

Heddiw rydw i’n gweithio fel dylunydd perfformio llawrydd, (freelance performance designer). Rydw i wedi dylunio i Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr NanÓg ac wedi cael profiad gwaith a gweithio gyda chwmnïau cenedlaethol; yn The National Theatre yn Llundain, National Theatre Wales, National Youth Theatre of Great Britain, a dwi’n datblygu sioeau gyda chwmnïoedd gwahanol ar hyn o bryd.

Pum mlynedd yn ôl dim ond breuddwyd pell oedd y cyfleoedd yma, ac rwyf mor ddiolchgar i Dduw am bob cyfle newydd ac am fy nghynnal i hyd yma. Wrth i fy ngyrfa ddatblygu dwi’n gobeithio bydd pob swydd yn sialens gyffrous ac yn gyfle i ddangos Crist, drwy nerth yr Ysbryd Glân – beth bynnag fyddai’n wneud.

Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw’r Gyfraith a’r proffwydi. Mathew 7:12

Beth am ddarllen 5 Top Tip Luned am ychydig o gyngor ynglŷn â dilyn dy freuddwydion?