Danfonwch neges atom

Os oes gennych gwestiwn am Gristnogaeth, bywyd, neu eisiau ein gweld yn delio gyda mater penodol, beth am ddanfon neges atom drwy'r ffurflen isod?

Ebostiwch ni neges@llwybrau.org

Ffoniwch ni01248 354 653

Dyddiadur Cysylltu
Chwilio

Fy Hoff Adnod – Salm 29:10

22 Mawrth 2019 | Gan Emrys Roberts

Gan Emrys Roberts

‘Mae’r Arglwydd ar ei orsedd uwchben y llifogydd. Mae’r Arglwydd yn Frenin ar ei orsedd am byth.’

Salm 29:10

Emrys

Rydw i wedi bod yn Gristion ers tua 25 mlynedd ac yn yr amser yma mae llawer o adnodau yn y Beibl wedi fy helpu trwy amrywiaeth eang o brofiadau bywyd. Weithiau, mae Duw yn ein hatgoffa o adnodau yn y Beibl wnaethon ni ddarllen llawer o flynyddoedd ynghynt – dyma ddigwyddodd gyda’r adnod yma.

 Un ar ddeg mlynedd yn ôl fe es i ar wyliau i Efrog Newydd. Yn y capel ar y dydd Sul, clywais bregeth ar Salm 29 am mor bwerus yw llais yr Arglwydd a sut mae yn medru trawsnewid sefyllfaoedd rydym yn dod ar eu traws yn ein bywydau.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, roeddwn yn mynd trwy amser caled yn fy mywyd o ganlyniad i rywbeth anghywir roeddwn i wedi ei wneud, ac er i fi edifarhau, doeddwn i ddim yn medru cysgu oherwydd fy mod yn poeni am y sefyllfa ac am y canlyniadau.

Defnyddiodd Duw y Salm yma i fy atgoffa bod Iesu Grist yn frenin dros bob sefyllfa, ac felly yn frenin dros fy sefyllfa i a thros y canlyniadau: ‘Mae’r Arglwydd ar ei orsedd uwchben y llifogydd’. Yr unig ffordd roeddwn i yn medru mynd i gysgu oedd trwy ailadrodd adnod 10 i fi fy hun.

Beth bynnag yw eich amgylchiadau chi, cofiwch:

‘Mae’r Arglwydd ar ei orsedd uwchben y llifogydd. Mae’r Arglwydd yn Frenin ar ei orsedd am byth.’

Mae Emrys yn athro ysgol gynradd ym Mhenybont ac yn mynd i Caersalem Gorseinon.